Beth os ydw i am gyfnewid fy nghartref â rhywun arall?
Mae HomeSwapper yn wasanaeth rhad ac am ddim ar gyfer ein tenantiaid sydd am symud drwy gyfnewid eu cartref â thenant Cyngor neu Gymdeithas Dai arall, yn lleol neu’n genedlaethol. Caiff trefniant o’r fath ei alw fel arfer yn drefniant ‘cydgyfnewid’.
Gall unrhyw un o denantiaid ateb ymuno â HomeSwapper. Ar ôl i chi gofrestru, bydd HomeSwapper yn chwilio am unrhyw gyfnewidiadau newydd posibl ar eich cyfer. Os oes diddordeb gennych mewn eiddo sy’n cyd-fynd â’ch anghenion, dylech ddefnyddio manylion y tenant arall i gysylltu ag ef er mwyn i chi weld eiddo eich gilydd. Cliciwch yma i gofrestru neu weld HomeSwapper.
Pan fyddwch wedi dod o hyd i eiddo addas, dylech lenwi ein
Ffurflen Cofrestru Trefniant Cydgyfnewid a’i hanfon i [email protected]