Document on desk

ateb yn falch o gymeradwyo polisi newydd ynghylch troseddau casineb

Mae Bwrdd ateb wedi cymeradwyo polisi newydd ynghylch troseddau casineb ar gyfer Grŵp ateb, sy’n cryfhau ein hymrwymiad i’n cwsmeriaid a’r gymuned ehangach y byddwn yn gweithredu’n gyflym ac yn effeithiol i fynd i’r afael â throseddau casineb. Mae hynny’n rhan o’n hymrwymiad i sicrhau bod pob un o’n cwsmeriaid yn gallu mwynhau eu cartref mewn heddwch, yn ddibryder ac yn ddi-ofn.

Trosedd gasineb yw trosedd y mae’r dioddefwr neu berson arall o’r farn ei bod wedi’i chymell gan elyniaeth neu ragfarn, ar sail unrhyw un o’r canlynol:

  • anabledd gwirioneddol neu ymddangosiadol person
  • hil wirioneddol neu ymddangosiadol person
  • crefydd wirioneddol neu ymddangosiadol person
  • cyfeiriadedd rhywiol gwirioneddol neu ymddangosiadol person
  • trawsrywedd gwirioneddol neu ymddangosiadol person

Mae ein polisi newydd yn elfen allweddol o sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Meddai Jane Robinson sydd wedi bod yn gweithio ar y polisi ac ar weithdrefnau cysylltiedig:

“Rydym yn falch o fod yn datblygu ein prosesau i sicrhau bod ymatebion priodol o ran gwasanaeth ar gael i gynorthwyo pawb sy’n dioddef troseddau casineb, yn unol ag arfer da a fframweithiau deddfwriaethol, er mwyn sicrhau bod troseddau casineb yn cael sylw buan i warchod dioddefwyr, atal problemau rhag gwaethygu ac achosi niwed pellach, a galluogi cwsmeriaid ac eraill yn ein cymunedau i fyw heb ofni y gallai rhywun aflonyddu arnynt, eu dychryn neu ymosod arnynt.

“Bydd ateb yn gweithio mewn modd cydweithredol ac mewn partneriaeth â’r heddlu, y gwasanaeth prawf, gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau eraill i ddwyn troseddwyr i gyfrif am eu hymddygiad, sicrhau bod dioddefwyr yn cael cymorth, a hybu cytgord a chydlyniant cymunedol.

“Mae dyletswydd ar bob aelod o staff Grŵp ateb, waeth beth fo’u rôl, i roi gwybod am droseddau casineb. Byddaf yn rhoi cyflwyniadau ynghylch diogelwch i’n timau a’n rheolwyr yn ystod y misoedd nesaf yn ogystal â hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer staff rheng flaen allweddol.”

Sut mae rhoi gwybod am drosedd gasineb

Os ydych wedi dioddef trosedd gasineb, gallwch roi gwybod amdani i’r heddlu neu’r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth (a gaiff ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr). Gallwch roi gwybod am droseddau o’r fath hefyd os byddwch yn eu gweld yn digwydd i rywun arall.

Gall yr heddlu a Cymorth i Ddioddefwyr gynnig help i chi ddelio â’r hyn sydd wedi digwydd i chi a dod o hyd i ffordd ymlaen.

Yr heddlu

Mewn argyfwng, ffoniwch 999

Mewn sefyllfa nad yw’n argyfwng, ffoniwch 101

Cymorth i Ddioddefwyr

Gallwch siarad â Cymorth i Ddioddefwyr yn lle siarad â’r heddlu. Mae’r elusen yn darparu help, cyngor a chymorth annibynnol, cyfrinachol i ddioddefwyr a thystion troseddau casineb yng Nghymru.

Gallwch ffonio Cymorth i Ddioddefwyr yn rhad ac am ddim unrhyw bryd ar 0300 3031 982.

Ewch i’r wefan lle gallwch roi gwybod am drosedd gasineb a chael gwybod mwy am ddulliau o gael cymorth. 

Cyhoeddwyd: 15/08/2022