Sioe Sir Benfro: “Gawn ni sôn ryw ychydig wrthych am ateb?”

Roedd Sioe Sir Benfro yn ei hôl eleni, ac er ei bod yn llai o faint nag o’r blaen roedd yr un hwyl a’r un naws deuluol ag arfer yn perthyn iddi!

Roedd stondin ateb ym Mharth y Gymuned a Dysgu a chafodd cannoedd o ymwelwyr eu croesawu iddi yn ystod y digwyddiad deuddydd. Roedd y criw yn cynnwys Angela a Shirley o’r Tîm Atebion o ran Tai; Cheryl, ein Swyddog Prosiect Arbed Ynni, Arbed Arian; Andrew, ein Cydlynydd Lles Cymunedol; Karen o’n Tîm Byw’n Annibynnol; a Tom o’r Tîm Pobl a Chyfathrebu.

Bu’r criw yn sgwrsio am lawer o bethau, er enghraifft pwy yw ateb, pa fath o dai yr ydym yn eu darparu, sut y mae’r broses o ddyrannu eiddo yn gweithio, a hyd yn oed sut mae arbed trydan. Doedd dim byd yn ormod o drafferth ac roeddem wrth ein bodd yn cwrdd â chymaint o bobl gyfeillgar.

Meddai Karen, sy’n aelod o Dîm Byw’n Annibynnol ateb:

“Mae wedi bod yn hyfryd cael cwrdd â chymaint o bobl o bob cwr o’r gorllewin. Mae gan ateb amrywiaeth gwych o gartrefi byw’n annibynnol, felly roedd yn braf dangos i bobl (ar ein gwefan) pa opsiynau sydd ar gael iddynt, ac esbonio pa fath o gymorth y gallwn ei gynnig a sut mae gwneud cais am un o gartrefi ateb.”

Dyma’r sioe gyntaf ers i gyfyngiadau Covid gael eu cyflwyno yn 2020, a chafodd ymwelwyr gyfle i fwynhau ystod eang o adloniant a oedd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, cwrt bwyd, dosbarthiadau da byw, cystadlaethau neidio ceffylau, garddwriaeth ac ardal newydd y Farchnad Wledig. Yno, roedd modd crwydro o amgylch dros 40 o stondinau cynnyrch a gwaith crefft lleol, arobryn o safon.

Diolch i bawb a stopiodd i gwrdd â thîm ateb, i fwynhau cacen a sgwrs ac i chwarae Jenga. Rydym wrthi’n barod yn cynllunio ar gyfer y sioe nesaf ac yn edrych ymlaen ati.

Ewch i’n tudalen Facebook i weld rhagor o luniau: @TheatebGroup

Cyhoeddwyd: 23/08/2022