Cyhoeddi mai ADS fydd y contractwr newydd ar gyfer ceginau ac ystafelloedd ymolchi

Mae’n bleser gennym gyflwyno ADS a fydd yn gofalu am ein gwaith adnewyddu ceginau ac ystafelloedd ymolchi dros y 12 mis nesaf yn rhan o’n rhaglen gwelliannau arfaethedig

Rydym yn gwella ein cartrefi’n rheolaidd trwy gyflawni gwaith megis gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, er mwyn eu cadw mewn cyflwr da.

Pan fydd eich cegin yn dod i ddiwedd ei hoes (rydym yn newid ceginau bob rhyw 15 mlynedd), bydd ADS yn eich ffonio i drefnu ymweliad a chynnal arolwg er mwyn gosod cegin newydd.

Mae Allyn Pritchard, Rheolwr Cynnal a Chadw ateb, yn falch o fod yn cydweithio ag ADS.

“Mae’n bwysig i ni bod ein cartrefi’n cael eu cynnal a’u cadw yn dda a’u bod yn lleoedd gwych i’n cwsmeriaid fyw ynddynt. Rydym hefyd yn gwybod bod gosod cegin neu ystafell ymolchi newydd yn gallu bod yn waith sy’n achosi llawer o straen. Felly, mae’n bwysig ein bod yn gweithio gyda chontractwr sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Mae gan ADS ddull gweithredu cyfannol y mae’r cwsmer yn ganolog iddo, ac mae’n cynnig mwy i’n cwsmeriaid nag yr ydym wedi’i wneud erioed o’r blaen, megis opsiynau teilwra ychwanegol, gwasanaeth paentio, ac awyru ychwanegol os oes angen. At ei gilydd, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gynnig profiad gwell i’n cwsmeriaid.”

Ychwanegodd air o rybudd hefyd, oherwydd bod perygl i bobl gael eu twyllo gan y sgamiau niferus sy’n bodoli ar hyn o bryd.

“Fydd neb byth yn gofyn i chi am arian nac am fanylion talu. Os bydd hynny’n digwydd, mae’n debygol mai rhywun sy’n esgus cynrychioli ADS fyddan nhw. Dylech ein ffonio ni (ateb ar 0800 854 568) ar unwaith.”

Pan fydd staff ADS yn ymweld â’ch cartref, bydd gofyn iddynt gario bathodyn adnabod er mwyn i chi allu ein ffonio i gadarnhau pwy ydyn nhw os ydych yn poeni am eu gadael i mewn i’ch cartref.

Cyhoeddwyd: 27/06/2022