Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canlyniad dyfarniad rheoleiddio

Mae’n bleser gennym gyhoeddi canlyniad ein dyfarniad rheoleiddio ar gyfer mis Mehefin 2022, sef ‘gwyrdd – cydymffurfio’ ar gyfer llywodraethu (gan gynnwys gwasanaethau i denantiaid) ac ar gyfer hyfywedd ariannol. Mae hynny’n golygu bod Llywodraeth Cymru o’r farn ein bod yn bodloni’r safonau rheoleiddio ac y byddwn yn destun goruchwyliaeth reoleiddiol arferol wrth symud ymlaen.

Mae dyfarniadau rheoleiddio yn asesu i ba raddau y mae cymdeithasau tai yn bodloni safonau Llywodraeth Cymru, ac mae pob cymdeithas dai yng Nghymru yn mynd drwy’r broses bob blwyddyn.

Mae’r broses asesu’n ystyried dau brif faes, sef llywodraethu (gan gynnwys gwasanaethau i denantiaid) a hyfywedd ariannol. Mae rhan o’r broses yn cynnwys darparu tystiolaeth i Lywodraeth Cymru i ddangos sut yr ydym yn bodloni’r naw o safonau perfformiad rheoleiddiol, sy’n cynnwys sut y caiff y sefydliad ei arwain yn strategol, sut yr ydym yn rheoli risgiau, sut yr ydym yn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau o safon i gwsmeriaid, sut beth yw ansawdd ein cartrefi, pa mor fforddiadwy yw ein cartrefi a’n gwasanaethau, i ba raddau y mae cwsmeriaid yn cymryd rhan yn ein prosesau gwneud penderfyniadau, a pha mor hyfyw yr ydym yn ariannol yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir.

Meddai Ceri Morgan, Pennaeth Corfforaethol:

“Llongyfarchiadau mawr i’r tîm. Mae hyn yn dangos bod y gwaith caled a wneir ar draws ateb, Mill Bay Homes a Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru yn dwyn ffrwyth go iawn. Diolch yn fawr i’n cwsmeriaid hefyd, y mae eu cyfranogiad yn ein gweithgareddau e2i yn rhoi dealltwriaeth i ni sy’n gymorth mawr i’n helpu i wella ein gwasanaethau’n barhaus. Os oes yna gwsmeriaid newydd a fyddai’n hoffi cymryd rhan a dylanwadu ar wasanaethau yn y dyfodol, neu ddarparu adborth, dewch i’n fforwm cwsmeriaid. Caiff cyfarfodydd y fforwm eu cynnal ar ddydd Iau ola’r mis ac maent yn gyfle gwych i gael gwybod beth sydd ar y gweill yn ateb.”

Caiff canlyniadau’r holl ddyfarniadau rheoleiddio eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yma.

Neu i lawrlwytho a gweld copi o’n dyfarniad ni, cliciwch yma

Cyhoeddwyd: 30/06/2022