Cadwch eich lle yn ein cynhadledd costau byw

Byddwn yn cynnal Cynhadledd Costau Byw i gwsmeriaid ateb yn Theatr y Torch yn nes ymlaen y mis hwn.

Mae costau byw sy’n cynyddu, yn enwedig cost ynni a chostau byw eraill, yn effeithio ar bob un ohonom. Hoffem glywed gennych ynglŷn â’r ffordd orau y gallwn ddarparu gwasanaethau i chi, gan sicrhau ar yr un pryd bod cost gwneud hynny mor isel ag sy’n bosibl.

Mewn cyfarfod diweddar o Fforwm Cwsmeriaid ateb, tynnwyd sylw at y cynnydd mewn costau byw a gofynnwyd beth y gallai ateb ei wneud i helpu. Awgrymwyd y dylem drefnu digwyddiad lle gallai cwsmeriaid ac aelodau tîm ateb archwilio’r materion hyn a syniadau eraill ymhellach.

Rydym eisoes yn gwneud llawer o bethau, er enghraifft yn sicrhau bod eich rhent a’ch taliadau gwasanaeth yn fforddiadwy drwy fabwysiadu’r Rhent Byw a darparu cyngor am effeithlonrwydd ynni a chymorth o ran cyllidebu, ond hoffem wybod a allwn wneud mwy.

Dewch draw (cofiwch gadw lle) er mwyn ymuno yn y sgwrs am y cynnydd mewn costau byw, y posibilrwydd y gallai rhenti gynyddu, sut y mae hynny’n effeithio arnoch chi a beth y gallwn ei wneud efallai i gynorthwyo pobl sy’n byw yng nghartrefi ateb.

Hoffem glywed gan gymaint o bobl wahanol ag sy’n bosibl. Felly, p’un a ydych yn byw ar eich pen eich hun, mewn teulu mawr, mewn eiddo newydd neu mewn hen eiddo, byddem yn falch iawn o gael eich barn a’ch syniadau.

Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys aelodau o dîm ateb sydd am glywed eich barn a’ch syniadau er mwyn i ni allu darparu’r cymorth a’r gwasanaethau gorau posibl, gan sicrhau ar yr un pryd bod cost gwneud hynny’n gost fforddiadwy.

Bydd yn gyfle hefyd i chi gael ambell gyngor gwych am ffyrdd o arbed ynni a chael gwybod pa gymorth arall a allai fod ar gael.

Bydd cinio bys a bawd yn cael ei ddarparu, felly bydd angen i chi gadw lle.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r gynhadledd, anfonwch neges ebost i [email protected]

neu ffoniwch Sue Mackie ar 01437 774769 neu Ali Evans ar 01437 774766 i gadw lle.

Pryd: Dydd Iau 13 Hydref o 12.30pm tan 3.30pm

Ble: Theatr y Torch, Aberdaugleddau

Edrychwn ymlaen at eich gweld.

Cyhoeddwyd: 05/10/2022