Yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd?
Ddim digon o arian ar gyfer popeth?
Ddim yn siŵr sut i oroesi’r gaeaf?
Hoffem glywed eich barn am:
● effaith byw mewn tlodi arnoch chi a’ch teulu
● eich awgrymiadau ynghylch beth all wella’r sefyllfa i chi ac eraill yn Sir Benfro
● y rhwystrau rhag gallu gwella pethau?
Mae yna grŵp gwaith wedi dod ynghyd i greu cynllun i fynd i’r afael a chyfraddau caledi ariannol yn codi yn y wlad. Maen nhw’n gwybod nad ydynt yn arbenigwyr a byddent yn hoffi eich cynnwys chi er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut beth yw byw mewn tlodi a pha gymorth sydd ei angen fwyaf, yn enwedig wrth inni wynebu argyfwng costau byw, ac fel bod modd iddynt roi arian ble bydd yn helpu fwyaf. Bydd eich profiad, syniadau ac awgrymiadau o gymorth i siapio’r cynllun ac maent wedi gofyn i Sarah Hughes a Karen Scott i’w cynorthwyo i gasglu straeon a phrofiadau o dlodi yn y cymunedau.
Sut i gymryd rhan
Gallwch gyfrannu eich stori ar adeg ac mewn lle sy’n addas i chi, drwy: siarad â Sarah neu Karen; chael sgwrs â ffrind neu gymydog, ble mae un ohonoch yn cofnodi neu’n recordio; dyddiadur ar-lein ysgrifenedig, sain neu ar fideo; neu drwy fynychu grŵp bychan gyda phobl eraill mewn amgylchiadau tebyg. Chi sydd i benderfynu.
Rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad a gallwn roi cynnig o dalebau archfarchnadoedd i chi. Neu, gallwch ddewis cyfnewid eich stori am Gredydau Amser Tempo, a all gael eu ‘gwario’ mewn nifer o allfeydd diwylliannol a hamdden, yn hytrach na defnyddio arian. Ceir rhagor o fanylion am hyn yma.
Bydd yr hyn a ddywedwch wrthym yn gyfrinachol, ac ni fydd eich manylion yn cael eu cadw na’u rhannu, oni bai eich bod yn rhoi caniatâd inni (er enghraifft, pe baech yn dewis parhau i gymryd rhan yn y prosiect ar ôl rhannu eich stori).
If you would like to take part in the project, please speak with atebs Community Development Team, or contact PAVS directly by phone/text on:
If you are worried about your energy bills this winter speak to our Home Energy Officer – [email protected] or call / text 07929021182