ateb yn edrych ymlaen at gael pencadlys newydd arloesol

Ni fydd Tŷ Meyler, cartref ateb ers nifer o flynyddoedd, yn ailagor oherwydd nad yw’r adeilad yn addas mwyach ar gyfer dull ein timau o weithio a disgwyliadau ein cwsmeriaid, sy’n newid. 

Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynllunio ein cartref newydd, wrth i ni ddatblygu amgylchedd ffisegol newydd sy’n dod â’n cwsmeriaid, ein timau a’n partneriaid ynghyd mewn ffyrdd mwy arloesol sy’n gwneud yn fawr o’n hawydd i ganolbwyntio ar gyswllt wyneb yn wyneb ond sydd hefyd yn cydnabod dyfodiad dulliau digidol newydd o gyfathrebu.

Byddwn yn gweithio gyda’n cwsmeriaid a’n timau i ddatblygu’r cam nesaf hwn ar gyfer ein presenoldeb mewn lle penodol.  

Rydym wedi gwneud newidiadau addas y tu ôl i’r llenni er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau’n dal i weithredu’n effeithiol, ac mae modd o hyd i bobl gysylltu â ni dros y ffôn, drwy ebost, drwy alwad fideo, ar gyfryngau cymdeithasol a thrwy drefnu apwyntiad wyneb yn wyneb.

Mae’r post yn cael ei ailgyfeirio, felly dylech barhau i ddefnyddio ein cyfeiriad yn Nhŷ Meyler am y tro.

Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am ein camau nesaf wrth i’n cynlluniau ddatblygu, a hoffem ddiolch i’n cwsmeriaid am eu hamynedd yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn anodd i bawb yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf y mae Covid wedi effeithio arnynt. 

Cyhoeddwyd: 27/10/2022