Caiff cyfarfod nesaf y Fforwm Cwsmeriaid ei gynnal ddydd Iau 26 Ionawr am 10:00 a bydd yn para tua dwy awr. Bydd egwyl fer am 11:00. Mae’r Fforwm hwn yn grŵp ar gyfer holl gwsmeriaid ateb, lle gallwch gwrdd â chwsmeriaid eraill ateb a’i staff a rhannu gwybodaeth am bethau sy’n effeithio arnoch chi a’ch cymunedau, er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau i chi.
Er bod y grŵp yn cyfarfod bob mis, fwy neu lai, gallwch ddewis pa sesiynau yr hoffech fynd iddynt.
Bydd ateb yn eich helpu i gysylltu â ni trwy Teams. Cofiwch holi, hyd yn oed os nad oes gennych gyfarpar.
Gall holl staff a chwsmeriaid ateb ymuno â’r grwpiau hyn.
Cysylltwch ag Ali Evans er mwyn derbyn eich dolen i’r digwyddiad ar-lein hwn: 01437 774766 / 07500 446611 / [email protected]
Mae croeso i chi ddod i’r sesiwn hon er mwyn cael cyfle i ddweud eich dweud.
Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni