Gall aelwydydd cymwys sy’n byw yn Sir Benfro hawlio £200 a delir unwaith yn unig.
Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd gymwys (un taliad i bob aelwyd), waeth sut yr ydych yn talu am eich tanwydd, boed er enghraifft drwy fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter. Gallwch ei hawlio, waeth a ydych yn defnyddio tanwydd ar y grid neu oddi arno.
Dim ond ar gyfer eiddo yng Nghymru y gall ymgeiswyr hawlio’r taliad, a dim ond os yr eiddo hwnnw yw eu prif gartref.
Mae’r taliad hwn yn ychwanegol at yr Ad-daliad Biliau Ynni a gynigir gan Lywodraeth y DU a’r Taliad Tanwydd Gaeaf a delir fel rheol i bensiynwyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae’r Cyngor wedi talu’r Taliad Cymorth Tanwydd o £200 i oddeutu 7,000 o aelwydydd cymwys sy’n cael y gostyngiad treth gyngor ar sail prawf modd ac sydd wedi cael taliad costau byw gwerth £150 yn ddiweddar.
Mae’r taliad hwnnw wedi’i anfon i’r cyfrif banc a enwebwyd ar gyfer y taliad costau byw. Dylai’r taliad fod wedi cyrraedd y cyfrif hwnnw erbyn 3.10.22.
Os na chawsoch y taliad erbyn 3.10.22, efallai eich bod yn un o’r aelwydydd na allem eu talu’n awtomatig. Felly, bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio’r ddolen gyswllt hon.