Raffl Hamperi Nadolig 2022 i gwsmeriaid 55 oed neu hŷn

DIWEDDARIAD: Mae’r gystadleuaeth hon bellach wedi cau. Cawsom 151 o geisiadau.
Mae’r 5 enillydd wedi cael gwybod ac mae’r hamperi yn cael eu dosbarthu yfory.
Diolch i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth hon.

Mae gennym 5 hamper Nadolig hyfryd i’w rhoi! Os ydych yn 55 oed neu hŷn ar 13/12/22, dyma eich cyfle i gymryd rhan yn rhad ac am ddim yn ein raffl.

Beth y dylech ei wneud

Anfonwch eich enw, llinell gyntaf eich cyfeiriad, a’ch rhif ffôn neu’ch cyfeiriad ebost mewn neges destun, ebost neu Messenger neu dros y ffôn, neu rhowch y manylion hyn i’ch cydlynydd cynllun os oes gennych un, erbyn 09:00 ddydd Mawrth 13 Rhagfyr 2022 fan bellaf.

Bydd enwau’r 5 enillydd yn cael eu tynnu gan Wheelofnames.com, sef adnodd dewis enwau ar hap ar-lein, a bydd yr hamperi’n cael eu dosbarthu i stepen eich drws mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Rheolau cymryd rhan

Dim ond cwsmeriaid ateb sy’n 55 oed neu hŷn ddydd Mawrth 13 Rhagfyr 2022 gaiff gymryd rhan yn y Raffl. Dim ond unwaith y caiff enw pob person cymwys ei gynnwys yn y raffl. Ni chaiff staff ateb na pherthnasau agos staff ateb gymryd rhan.

Cysylltwch ag:

Ali Evans 01437 774766 / 07500 446611

Sue Mackie 01437 774769

[email protected]

Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni

Diweddarwyd: 19/12/22