Y Bws Dementia

Trefnodd Bill, un o’n Cydlynwyr Byw’n Annibynnol, fod training2care yn dod â’u Bws Dementia atom er mwyn i rai aelodau o’r tîm allu cymryd rhan yn y Daith Dementia Rithiol.

Rhoddodd y daith rywfaint o brofiad i’r tîm o sut beth y gallai dementia fod, ac am gyfnod byr bu modd i ni fynd i fyd pobl sy’n byw gyda dementia a deall y clefyd ofnadwy hwn yn well. Roedd yn brofiad pwerus, a byddem yn argymell eich bod yn mynd ar y bws os cewch chi gyfle i wneud hynny.

Yn anffodus, mae llawer ohonom yn adnabod rhywun sy’n byw gyda dementia. Os oes angen cymorth arnoch chi neu ar unrhyw aelodau o’ch teulu, mae adnoddau/sefydliadau gwych ar gael megis https://www.dementiauk.org/about-us/ a https://www.alzheimers.org.uk/about-us/who-we-are

Diweddarwyd: 27/01/2023