Pontfadlen & Neuadd Pater

22/02/23 11:00 – 14:00; Neuadd Pater, Lewis St, Doc Penfro SA72 6DH

23/02/23 14:00 – 17:00; Neuadd Les Pontfadlen, Pembroke Rd, Hwlffordd SA61 1JW

TE GYDAG ATEB

Rhaid i bob plentyn dan 16 oed fod yng nghwmni rhywun sy’n 16 oed neu’n hŷn.

Dewch i ymuno â ni am bryd ysgafn o fwyd, rhad ac am ddim, a chyfle i siarad â staff ateb a’n partneriaid am:

  • Ynni
  • Budd-daliadau a chyllidebau
  • Cymorth o ran data digidol
  • Cludiant cymunedol
  • Cyflogaeth a hyfforddiant
  • Eich tenantiaeth
  • Eich cymuned

Bydd yna weithgareddau i blant: lle chwarae meddal a phwll peli, gemau bwrdd a gemau cardiau, Jenga mawr a dominos mawr.

 

At hynny, bydd Gweithdai Coginio Prydau Iach a Rhad yn rhan o’r ddau ddigwyddiad hyn:

Bydd y sesiwn goginio 1af yn dechrau am 11:30 yn Neuadd Pater

Bydd yr 2il sesiwn goginio yn dechrau am 12:45 yn Neuadd Pater

Bydd y sesiwn goginio 1af yn dechrau am 2:30pm yn Neuadd Les Pontfadlen

Bydd yr 2il sesiwn goginio yn dechrau am 3:45 yn Neuadd Les Pontfadlen

Bydd y cynhwysion i gyd yn cael eu darparu’n rhad ac am ddim; dewch â’ch llestr eich hun os ydych yn teimlo yr hoffech fynd â’r bwyd y byddwch wedi’i goginio adref gyda chi.

Bydd pob sesiwn goginio yn para 45 munud

Rhaid cadw lle ymlaen llaw yn y sesiynau coginio. I gadw lle, ffoniwch y tîm Datblygu Cymunedol neu anfonwch ebost neu neges destun iddo, gan nodi eich enw; llinell gyntaf eich cyfeiriad; pa sesiwn yr hoffech gadw lle ynddi; faint o bobl fydd yn dod a beth yw eu hoedran, os ydynt dan 16 oed.

 

Os hoffech ddod i’r digwyddiad heb gymryd rhan yn y sesiwn goginio, mae croeso i chi fynychu ac ni fydd angen i chi gadw lle – gallwch ddod heb gysylltu ymlaen llaw.

Mae’r digwyddiadau hyn yn agored i gwsmeriaid ateb ac i bobl sydd â chysylltiad uniongyrchol â nhw.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl am y ddau ddigwyddiad hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol gan ddefnyddio unrhyw un o’r manylion cyswllt a nodir isod.

Cysylltwch â’r tîm Datblygu Cymunedol i gadw eich lle yn y sesiwn goginio neu i ofyn unrhyw gwestiynau: 01437 774766 / 07500 446611 / [email protected]

Caiff y digwyddiadau hyn eu trefnu gan ateb

Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni

Cyhoeddwyd 01/02/23