Talebau Ynni

Nid yw 20% o aelwydydd sydd â mesurydd rhagdalu wedi hawlio eu talebau ynni ar gyfer mis Tachwedd a mis Rhagfyr, a fyddai’n rhoi talebau gwerth £132 iddynt ar gyfer costau ynni.

Pan nad yw taleb wedi’i hawlio, dylai cyflenwyr geisio cysylltu â chi o leiaf dair gwaith, drwy’r post, drwy ebost a thrwy neges destun. Cofiwch wirio eich negeseuon testun a’ch ffolderi sbam yn eich ebost.

Os nad ydych wedi cael taleb cysylltwch â’ch cwmni ynni, rhowch eich manylion cyswllt diweddaraf iddo, a bydd modd i daleb gael ei rhoi i chi unwaith eto.

Os byddwch yn dod o hyd i’ch taleb, gwiriwch y dyddiad. Os yw’r dyddiad wedi pasio cysylltwch â’ch cwmni ynni, rhowch eich manylion cyswllt diweddaraf iddo, a bydd modd i daleb gael ei rhoi i chi unwaith eto.

Bydd angen wedyn i chi fynd â’r talebau i siop PayPoint neu Swyddfa Bost leol er mwyn i’w gwerth gael ei gredydu i fesurydd.

Os oes angen cymorth arnoch i gael credyd ar eich ffôn i wneud hyn, rhowch wybod i ni oherwydd gallwn eich helpu i gael data symudol am ddim.

Diweddarwyd: 10/02/2023