Diweddariad am gostau byw a thlodi tanwydd

Rydym yn ymwybodol o’r effaith y mae costau byw cynyddol yn ei chael ar gwsmeriaid ateb. Mae aelodau o dîm ateb wedi bod yn cwrdd bob mis i oruchwylio a chydlynu’r cymorth yr ydym yn ei roi i’n cwsmeriaid yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac i weithredu’r syniadau a luniwyd gennym ar y cyd â’n cwsmeriaid mewn digwyddiad a gynhaliwyd fis Hydref y llynedd.

Mae gwaith gwych wedi bod yn digwydd i gynorthwyo ein cwsmeriaid. Mae’n cynnwys:

  • 3,454 o ymyriadau’n ymwneud â chymorth a chyngor ynghylch arian rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2022.
  • Neb wedi’u troi allan o gartrefi ateb oherwydd eu bod yn cael trafferth talu eu rhent.
  • 21 o aelwydydd wedi cael cymorth ariannol drwy gronfa ateb ar gyfer caledi oherwydd ynni.
  • 273 o aelwydydd ateb wedi cael cymorth a chyngor ynghylch ynni yn y cartref.
  • Parseli bwyd a theganau Nadolig wedi’u dosbarthu i 30 o aelwydydd mewn pryd ar gyfer y Nadolig.
  • 400 o becynnau cadw’n gynnes wedi’u paratoi gan dîm ateb a gwirfoddolwyr o’n Cynlluniau Byw’n Annibynnol ac wedi’u dosbarthu i aelwydydd ar draws Sir Benfro.

Dyma gipolwg sydyn ar y gwaith gwych sy’n digwydd i gynorthwyo ein cwsmeriaid bob dydd.

I lawrlwytho’r manylion diweddaraf am Gostau Byw a Thlodi Tanwydd a chael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Cyhoeddwyd: 23/03/2023