Prentisiaethau Talk Training

Yma yn ateb, rydym yn buddsoddi yn ein staff drwy roi ystod eang o gyfleoedd iddynt ddysgu a datblygu. Ym mis Rhagfyr 2022 gwnaethom ymuno â Talk Training, y cydnabyddir ei fod yn arwain y ffordd o safbwynt darparu prentisiaethau yng Nghymru. Mae Talk Training wedi darparu dros 25,000 o brentisiaethau, ac ar hyn o bryd mae ganddo 500 o brentisiaid sy’n dysgu drwy weithio gyda 130 o gwmnïau. Yn ddiweddar mae tair aelod o’n tîm, sef Julie, Jess a Sarah, wedi dechrau dilyn eu cyrsiau hyfforddiant. Dyma sydd ganddynt i’w ddweud am eu cyrsiau:

“Rwy’n credu yn gryf nad ydych byth yn rhy hen i ddysgu. Felly, roeddwn wrth fy modd pan gefais gyfle i ennill cymhwyster y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn rheoli, sydd wedi’i ariannu yn llawn ac a fydd yn fy helpu i ddatblygu’n bersonol. Mae’r cymorth a gynigiwyd drwy ein haseswyr unigol a gweithdai wedi bod yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen at gwblhau’r cymhwyster yn y dyfodol agos ac at weld pa gyfleoedd y bydd yn eu cynnig i fi.” Julie

“Rwy’n ddiolchgar am y cyfle rwyf wedi’i gael i ddilyn y cwrs hwn. Rwy’n teimlo y bydd yn fy helpu gydag unrhyw uchelgais a allai fod gennyf yn y dyfodol i gael swydd fel rheolwr. Mae pob un o’r tiwtoriaid yn wirioneddol gyfeillgar ac mae’r aseswyr yn gefnogol ac yn agos-atoch.” Jess

“Rwy’n dilyn cwrs NVQ Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad. Bydd y cymhwyster yn fy ngalluogi i roi gwasanaeth gwell i gwsmeriaid ateb. Mae fy aseswr gyda Talk Training yn dda am roi sicrwydd, help a chefnogaeth i fi. Mae’n brofiadol iawn yn ein maes gwaith a gallaf gysylltu ag ef pryd bynnag y bo angen os oes angen help arnaf gydag unrhyw beth. Mae’r cymhwyster NVQ Lefel 4 hwn yn wych, oherwydd mae llawer o’r gwaith yn canolbwyntio ar ein swyddi ac mae’r aseswr yn gallu dod i’n gweithle i arsylwi’r hyn yr ydym yn ei wneud bob dydd.” Sarah

Dyma un enghraifft yn unig o’r modd y mae ateb yn buddsoddi yn ein timau i sicrhau ein bod yn creu atebion gwell o ran byw i’n cwsmeriaid. Mae gennym lawer mwy o gyfleoedd cyffrous yn ein cynllun dysgu a datblygu ar gyfer eleni, gan gynnwys cyrsiau hyfforddiant sy’n amrywio o hyfforddiant ynghylch Offer Miniog i hyfforddiant ynghylch Troseddau Casineb. Felly, cofiwch gadw’ch llygaid ar agor am wybodaeth!

Diweddarwyd: 02/05/23