ateb yn lansio Cynllun Cyflawni Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn rhan o’n DNA #HybuHygyrchedd. Er mwyn cyflawni ein nodau strategol, sef gwella ein gwasanaethau i gwsmeriaid, gwasanaethu mwy o bobl a gwella effeithiolrwydd ein busnes, rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni fod yn gynhwysol ym mhob peth a wnawn.

Erbyn hyn, mae ein Bwrdd wedi cymeradwyo ein Cynllun Cyflawni Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sy’n egluro sut yr ydym yn bwriadu gwella ein dull o ymdrin â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac sy’n egluro’r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd i sicrhau gwelliannau.

Cliciwch ar y llun i’w weld.

Meddai Mark Lewis – Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid, “Rydym wedi gwrando ar farn ein cwsmeriaid, pobl a phartneriaid wrth ddatblygu’r cynllun hwn ac rydym yn atebol iddynt wrth gyflawni ein gwaith. Rydym yn edrych ymlaen yn awr at ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yn lleol ac yn genedlaethol i hybu’r gwaith o wireddu ein hymrwymiadau i gyflawni ein cynllun.”

Cyhoeddwyd: 01/06/2023