Mae Grŵp ateb yn awyddus i benodi contractwyr i Gytundeb Fframwaith 3 blynedd, gyda’r posibilrwydd o ymestyn y cytundeb am 2 flynedd arall fesul cyfnod o 12 mis.
Rydym yn chwilio am gontractwyr sydd â hanes amlwg o sicrhau arfer gorau wrth gyflawni contractau tebyg, ac sy’n gallu gweithio’n rhagweithiol i’n cynorthwyo i wireddu ein hagenda gymdeithasol ac amgylcheddol yn ein cymunedau.
Rhagwelir y bydd gwaith yn cael ei ddyrannu i gontractwyr drwy ‘gontractau cylchynol yn ôl y gofyn’. Bydd y rhaglen waith yn cynnwys Darparu Gwasanaeth Atgyweirio Eiddo a Chyflawni Gwaith ar Eiddo Gwag (stoc ateb o ran tai).
Rhagwelir y bydd y Fframwaith yn werth tua £1.5 miliwn y flwyddyn.
Digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr
Caiff contractwyr sydd â diddordeb eu gwahodd i fynychu digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’ a gynhelir ddydd Mercher 26 Gorffennaf 2023 yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro.
Bydd y diwrnod yn gyfle i gontractwyr sydd â diddordeb gwrdd â chynrychiolwyr Grŵp ateb, a fydd yn cyflwyno trosolwg o’r fframwaith sydd ar ddod fel eich bod yn deall ein gofynion.
Bydd yna sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniad. Drwy gynnig y cyfle hwn, rydym yn gobeithio y bydd contractwyr yn gallu dangos beth sy’n bosibl yn y farchnad ar hyn o bryd ac y byddant yn gallu helpu i gadarnhau ein gofynion wrth i ni symud ymlaen.
I fynegi eich diddordeb mewn mynychu ein digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’, anfonwch ebost i [email protected]
Yr amser a’r dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw 5pm ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023.
Nodwch mai dim ond ar y diwrnod hwnnw y bydd y digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’ yn cael ei gynnal, a bod croeso i bob cyflenwr sydd â diddordeb fynychu.
Nodwch mai o’u gwirfodd y bydd cyflenwyr yn mynegi diddordeb, ac na fydd y sawl a allai fod yn cyflwyno tendr ar eu hennill nac ar eu colled o fod yn rhan o’r digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’. At hynny, ni fydd unrhyw drafodaethau sy’n digwydd yn ystod y diwrnod yn rhan o unrhyw broses dendro ffurfiol. Mae Grŵp ateb yn cadw’r hawl i newid ei ofynion cyn i’r Hysbysiad ynghylch Contract gael ei gyhoeddi.
Rhagor o wybodaeth…
Rydym yn awyddus i benodi hyd at bedwar contractwr i Gytundeb Fframwaith 3 blynedd (gyda’r posibilrwydd o ymestyn y cytundeb am 2 flynedd arall) ar gyfer gwaith a fydd yn golygu Darparu Gwasanaeth Atgyweirio Eiddo a Chyflawni Gwaith ar Eiddo Gwag mewn eiddo domestig y mae ateb yn berchen arno.
Caiff enghreifftiau o’r amrywiaeth o waith eu rhestru isod –
- Llwybrau, grisiau a lloriau caled
- Ffenestri to
- Gwaith draenio
- Estyll tywydd, cafnau bargod a pheipiau dŵr
- Atgyweirio cynteddau/Gosod cynteddau newydd
- Rhoi wyneb newydd ar ffyrdd
- Gweithio gydag asbestos/Symud asbestos o eiddo
- Gosod ystafelloedd ymolchi
- Gwaith saer
- Addurno – mewnol ac allanol
- Glanhau eiddo’n drylwyr/Glanweithio
- Draenio/Clirio
- Gwaith trydanol
- Ymdrin â ffenestri
- Gosod lloriau/finyl/carpedi
- Gwaith ar sylfeini
- Gosod deunydd inswleiddio mewnol/allanol ar waliau
- Gosod ceginau
- Gwaith tirlunio/coed/glaswellt
- Gwaith saer cloeon
- Gwaith saer maen
- Chwilio am nodwyddau a phethau miniog eraill
- Gwaith yn ymwneud â Grantiau Addasiadau Ffisegol/Gwaith addasu
- Rheoli plâu
- Gwaith plymer
- Glanhau/Clirio eiddo
- Rendro/Plastro
- Atgyweirio toeau/Gosod toeau newydd
- Sgaffaldau
- Clirio gwastraff yn gyffredinol
- Cynnal arolygon â drôn
Rhagwelir y bydd Hysbysiad ynghylch Contract yn cael ei gyhoeddi ar GwerthwchiGymru ar 4 Awst 2023, ond gallai’r dyddiad hwnnw newid.