Adroddiad ynghylch Cynadleddau i Gwsmeriaid 2023 – Beth yr hoffech ei weld yn gwella?

Ym mis Mai eleni, gwnaethom gynnal tair cynhadledd i gwsmeriaid ar draws Sir Benfro, gan ofyn i gwsmeriaid “beth yr hoffech ei weld yn gwella yn ateb?”.

Daeth llawer o bobl i’r cynadleddau a gynhaliwyd yn Aberdaugleddau, Hwlffordd ac Arberth.

Meddai Mark Lewis, ein Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid:

“Hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth i’r cynadleddau ac a wnaeth yn siŵr bod y tri digwyddiad yn gymaint o lwyddiant. Gwnaeth pob aelod o’r tîm a oedd yn bresennol, gan fy nghynnwys i, fwynhau’r cyfle i wrando ar eich barn a dod i adnabod ein cwsmeriaid ychydig yn well.

Erbyn hyn, rydym wedi cael cyfle i adolygu’r holl adborth a gafwyd ac, fel yr addawsom, rydym wedi llunio adroddiad ar gyfer y bobl a ddaeth i’r cynadleddau ac ar gyfer unrhyw un arall sydd â diddordeb yn yr hyn y buom yn ei drafod.”

Gallwch lawrlwytho’r Adroddiad am Gynadleddau i Gwsmeriaid 2023 yma.

Rydym yn bwriadu cynnal rhagor o gynadleddau i gwsmeriaid y flwyddyn nesaf ac rydym yn gobeithio y bydd mwy fyth o gwsmeriaid yn gallu ymuno â ni.

Yn y cyfamser, beth am ymuno â Fforwm Cwsmeriaid ateb, sy’n cwrdd ar ddydd Iau olaf y mis gan amlaf? Cysylltwch ag [email protected] i gael gwybod mwy.

Cyhoeddwyd: 26/07/2023