Addasiadau

Os ydych chi, neu rywun sy’n byw gyda chi, yn cael trafferth gartref oherwydd afiechyd neu anabledd, gallai addasu eich cartref fod o fudd. Mae’r rhestrau isod yn darparu enghreifftiau o’r mathau o addasiadau y gallwn eu trefnu:

Mân addasiadau

  • Canllawiau cydio, canllawiau cynnal a chanllawiau grisiau.
  • Tapiau, dolenni drysau, socedi addas, e.e. tapiau lifer.
  • Newidiadau i drothwyau, llwybrau a gatiau fel ei bod yn haws mynd a dod.
  • Clychau drysau sy’n fflachio, ar gyfer cwsmeriaid sydd â nam ar eu clyw.
  • Cyfarpar diogelwch tân, e.e. systemau rhybuddio sy’n fflachio ac yn dirgrynu, ar gyfer cwsmeriaid sydd â nam ar eu clyw a’u golwg.
  • Cyfarpar agor ffenestri.
  • Rampiau trothwy ar gyfer drysau mewnol.
  • Systemau mynediad.

I gael mân addasiadau, llenwch y ffurflen Mân Addasiadau sydd ar-lein.

Addasiadau mawr

  • Rampiau a chanllawiau sefydlog.
  • Ceginau, ystafelloedd ymolchi neu gawodydd â chyfarpar arbennig, e.e. cawod heb ris i fynd i mewn iddi.
  • Lifftiau sy’n symud drwy’r llawr, a theclynnau codi sy’n sownd wrth drac ar y nenfwd.
  • Gwaith lledu drysau a ffenestri.
  • Lifftiau grisiau.
  • Toiledau golchi a sychu.

Os ydych yn credu bod angen addasiad mawr arnoch, cysylltwch â Chyngor Sir Penfro ar 01437 764551 a bydd y Cyngor yn trefnu bod therapydd galwedigaethol yn dod i gwrdd â chi ac yn asesu eich anghenion.

Gallwch weld ein Polisi Cymhorthion ac Addasiadau llawn yma.

Pan fyddwn wedi cael asesiad y therapydd galwedigaethol, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu bod y gwaith yn cael ei gyflawni drwy ein his-gwmni, Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru. Os oes unrhyw resymau pam na allwn awdurdodi’r addasiad, byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich opsiynau.

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →