Digwyddiad Cwmpas: Cymunedau’n Creu Cartrefi.

Hoffai aelodau’r tîm Cymunedau’n Creu Cartrefi yn Cwmpas eich gwahodd i ymuno â nhw yn Neuadd y Frenhines, Arberth yfory (ddydd Mercher 27 Medi). Bydd y digwyddiad yn cyflwyno tai a gaiff eu harwain gan y gymuned, yn dangos enghreifftiau o bob rhan o Gymru ac yn tynnu sylw at y cymorth y mae Cwmpas yn ei gynnig yn ystod pob cam – o’r cysyniad cychwynnol i’r cam cwblhau.

  • I gael blas ar gynnwys y sesiwn hyfforddiant, ewch i fwrw golwg ar y pecyn cymorth sydd ar-lein
  • Nodwch y bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg
  • Bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch ebost i: [email protected]

Neu i gadw eich lle, ewch i:

https://www.eventbrite.co.uk/e/people-powered-housing-tai-wediu-bweru-gan-bobl-tickets-700179564927?aff=oddtdtcreator

Bydd ateb yno i ymdrin ag unrhyw gwestiynau a allai fod gennych, ac mae’n noddi’r digwyddiad drwy ddarparu’r lleoliad a lluniaeth.

Cyhoeddwyd: 26/09/2023