Dau enwebiad i Grŵp ateb yng Ngwobrau Iechyd a Gofal Gorllewin Cymru 2023

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod Hanover Court, sef Cynllun Tai Byw’n Annibynnol yn Hwlffordd, a Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru wedi cael eu henwebu yn y categori Tai â Gofal eleni yng Ngwobrau Iechyd a Gofal Gorllewin Cymru 2023.

Mae’r wobr hon yn cydnabod person neu dîm sy’n darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer pobl agored i niwed sy’n byw mewn unrhyw gynllun tai â chymorth.

Bydd angen i’r person neu’r tîm ddangos ei fod yn diwallu ystod o anghenion cymhleth o ran gofal a chymorth, sy’n cynnwys rhyngweithio â’r gymuned leol, bod yn awyddus i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf i unigolion a’u cynorthwyo i barhau’n annibynnol.

Roedd Bill Faichney, y Cydlynydd Tai yn Hanover Court, wrth ei fodd pan glywodd am yr enwebiad. Meddai, wrth esbonio:

“Mae gan bob diwrnod ei heriau unigryw ei hun, sy’n golygu bod fy swydd yn amrywiol ac yn ddiddorol. Rwy’n mwynhau cynorthwyo ein cwsmeriaid a’u grymuso i deimlo’n hyderus ac yn gadarnhaol amdanynt eu hunain.

Rwyf wedi bod yn cyflawni’r swydd hon ers dros bum mlynedd, ac mae’r heriau sy’n perthyn iddi’n rhoi llawer o foddhad i fi. Mae natur ddeinamig fy ngwaith, y bobl rwy’n rhyngweithio â nhw, a’r cyfle rwy’n ei gael i wneud gwahaniaeth i’w bywydau wedi atgyfnerthu fy hoffter o’r swydd. Fyddwn i ddim am wneud unrhyw beth arall.”

Cafodd Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru, sy’n un o is-gwmnïau Grŵp ateb, ei lansio yn 2001 yn rhan o ymrwymiad Grŵp ateb i greu atebion gwell o ran byw ar gyfer pobl a chymunedau’r gorllewin.

Meddai Jayne O’Hara, sy’n rheoli gwasanaeth Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru, gyda balchder: “Rwy’n falch iawn dros y tîm sy’n gweithio mor galed i wella bywydau ein cwsmeriaid a gwneud popeth posibl i sicrhau eu bod yn parhau’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi.” 

Mae Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru yn sefydliad dielw a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyngor a chymorth i bobl hŷn ar draws Sir Benfro a Cheredigion. Rydym yn cydweithio’n agos ag asiantaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu atebion ymarferol er mwyn cynorthwyo pobl hŷn i barhau’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi. Mae gennym dîm o weithwyr achos sy’n cynnal asesiadau o gartrefi, a thîm o grefftwyr sy’n gosod addasiadau, ac mae pob un ohonynt wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth gwych. Rydym yn cael llawer o adborth ardderchog gan ein cwsmeriaid am ein tîm rhagorol ac am y gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud.

Gan fod y ddau enwebiad yn perthyn i’r un categori, gallwn ddweud yn hollol ddiffuant nad oes ots gennym pwy fydd yn ennill!

Bydd y seremoni eleni’n cael ei chynnal ddydd Iau 26 Hydref yn y Pafiliwn yn Hwlffordd. Pob lwc i’r ddau, ac i’r holl sefydliadau a’r holl unigolion gwych sydd wedi’u henwebu ar gyfer gwobr.

Llongyfarchiadau i bawb!

Cyhoeddwyd: 17/10/2023