ateb: Arolwg Seren 2023/24

DIWEDDARIAD: Mae’r arolwg hwn bellach wedi cau

MAE EICH BARN YN BWYSIG – DIOLCH AM SIARAD AG ATEB

Cawsom wybodaeth gan 770 o’n cwsmeriaid

Bydd adroddiad llawn sy’n dangos canlyniadau’r arolwg hwn ar gael ar ein gwefan yn fuan ar dudalen Newyddion.

Byddwn yn cysylltu â’r enillydd y gystadleuaeth yn ystod wythnos yn dechrau 12/02/24.

 

Enillwch werth £100 o dalebau siopa yma!

Cymerwch eich amser i lenwi’r holiadur byr hwn a chystadlu i ennill gwobr o £100.

Pa mor fodlon ydych chi?

Dyma’ch cyfle i wneud i bethau newid…

Bob yn ail flwyddyn byddwn yn casglu eich barn am agweddau pwysig ar eich cartref er mwyn i ni, fel pob darparwr tai cymdeithasol arall, allu ein cymharu ein hunain â darparwyr eraill ledled Cymru ac er mwyn i bob un ohonom allu gweld sut hwyl rydym yn ei chael arni. Oherwydd ein bod am ddangos yn glir sut rydym yn perfformio o gymharu â chymdeithasau tai eraill, rhaid i’n cwestiynau ni fod yr un fath â chwestiynau pawb arall. Y llywodraeth sy’n penderfynu ar y cwestiynau.

Byddwch yn gallu gweld sut rydym yn perfformio hefyd – bydd y canlyniadau ar gael ar-lein yn 2024.

Bydd yr arolwg hwn ar agor tan 09/02/24.

Diweddarwyd 12/02/24