Rydym yn cynnig cyfleusterau parcio cyhoeddus y tu ôl i’r hen lyfrgell yn Dew Street.
Rhaid i chi dalu am docyn a’i arddangos i barcio yno, ac mae nifer gyfyngedig o drwyddedau parcio i breswylwyr ar gael hefyd. Bydd y cyfyngiadau parcio’n cael eu rheoli gan Parking Eye.
Mae’r taliadau yn mynd tuag at gynnal a chadw’r maes parcio, ei reoli a thalu am yswiriant er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel a’i fod yn cael ei gynnal a’i gadw i’w ddefnyddio gan y cyhoedd.
1 awr: £1 (Car)
2 awr: £1.50 (Car)
4 awr: £2 (Car)
24 awr: £2.50 (Car)
Wythnos: £12.50 (Car)
Gallwch dalu ag arian parod neu gerdyn gan ddefnyddio ein peiriant talu ar y safle.
Gallwch hefyd lawrlwytho’r ap neu fynd i paybyphone.co.uk neu ffonio 0330 400 7275 i dalu am barcio.
Bydd angen rhif lleoliad y maes parcio arnoch, sef 80 75 85, a rhif cofrestru eich car.
Trwyddedau parcio i breswylwyr
Mae gennym nifer gyfyngedig o drwyddedau parcio i breswylwyr.
Cliciwch yma i weld Amodau Defnyddio Trwyddedau Parcio i Breswylwyr Dew Street.
Hysbysiad Preifatrwydd – Maes Parcio Dew St
I wirio a ydych yn gymwys ac i wneud cais am drwydded parcio i breswylwyr, anfonwch ebost i [email protected]