Oriau agor dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Ni fydd ein timau a’n canolfan gyswllt ar gael o 4.30pm ddydd Gwener 22 Rhagfyr 2023 tan 9.30am ddydd Mawrth 2 Ionawr 2024.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ein llinellau ffôn yn cael eu trosglwyddo i ddarparwr gwasanaeth y tu allan i oriau gwaith arferol, a fydd yn ymdrin ag argyfyngau’n unig. Mae’r hyn a gaiff ei ystyried yn argyfwng i’w weld yma.

Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra, gan obeithio y cewch chi amser wrth eich bodd dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Mae’n bosibl y byddwn yn brysur iawn pan fydd ein llinellau ffôn yn agor am 9.30am ddydd Mawrth 2 Ionawr, felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar.

Cofiwch fod ein derbynfa yn Nhŷ Meyler ar gau’n barhaol ac mai oriau agor ein canolfan gyswllt a’n timau yw’r rhain.

Hoffai pawb yn ateb ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.

Dydd Gwener 22 Rhagfyr 2023

9am – 4.30pm

Ar agor (y diwrnod gwaith olaf)

O ddydd Sadwrn 23 Rhagfyr 2023 tan ddydd Llun 1 Ionawr 2024

Ar gau

Dydd Mawrth 2 Ionawr 2024

9.30am – 5pm

Ar agor

Bydd y gwasanaeth argyfwng y tu allan i oriau gwaith arferol ar gael dros gyfnod y Nadolig / y Flwyddyn Newydd. Mewn argyfwng, gallwch barhau i ffonio ein rhifau arferol, sef:

01437 763 688 neu 0800 854 568

Ni fydd ein cyfrifon ebost a’n sianelau ar gyfryngau cymdeithasol yn cael eu monitro tra byddwn ar gau. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.