Mae gofalu am ddiogelwch ein cwsmeriaid yn rhywbeth yr ydym yn ei gymryd o ddifrif.
Ein blaenoriaeth wrth adeiladu a chynnal a chadw ein cartrefi yw diogelwch. Rydym yn cydweithio’n agos â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a diogelwch ac â’r Gwasanaeth Tân i sicrhau bod ein cartrefi’n ddiogel ar gyfer ein cwsmeriaid.
Larymau mwg
Rydym wedi gosod larwm mwg yn eich cartref newydd. Bydd yn rhoi rhybudd cynnar i chi drwy wneud sŵn uchel os bydd tân yn dechrau. Gall wneud gwahaniaeth i ddiogelwch eich teulu. Ni ddylech fyth:
- Geisio datgysylltu eich larwm.
- Paentio drosto.
- Ei symud.
- Tynnu’r batri allan.
- Oedi cyn rhoi batri newydd ynddo yn lle hen un.
Gwiriwch eich larwm yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n iawn. Gallwch wneud hynny drwy wasgu’r botwm profi nes bod y larwm yn seinio. Dylai’r larwm dawelu pan fyddwch yn tynnu eich bys oddi ar y botwm. Os yw’n ymddangos nad yw eich larwm yn gweithio’n iawn ar ôl i chi newid y batri, dylech roi gwybod i ni ar unwaith.
Bydd eich larwm mwg yn cael ei wirio gan y contractwr gwresogi bob blwyddyn pan fydd yn ymweld â’ch cartref i roi gwasanaeth i’ch system wresogi.
Tanau yn y cartref
Gall tanau ddechrau’n hawdd ac ymledu’n gyflym. Peidiwch â thynnu unrhyw ddrysau mewnol neu ddyfeisiau cau drysau i ffwrdd yn eich cartref, oherwydd maent yn helpu i atal tân rhag ymledu. Os bydd tân yn dechrau, rhaid i chi:
- Adael yr adeilad cyn gynted ag y bo modd.
- Cau’r drysau y tu ôl i chi os oes modd er mwyn atal y fflamau a’r mwg rhag ymledu, a ffonio 999 gan roi’r manylion llawn i’r Gwasanaeth Tân.
- Rhybuddio eich cymdogion.
- Rhoi gwybod i ni.
Os ydych yn byw mewn tai ar gyfer pobl hŷn neu mewn adeilad yr ydych yn ei rannu ag eraill, dylech sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r cyfarwyddiadau diogelwch tân ar gyfer yr adeilad hwnnw. Bydd drysau mewn ardaloedd cyffredin a drysau sydd nesaf at ardaloedd cyffredin yn rhai sy’n cau ohonynt eu hunain. Sicrhewch fod y drysau hyn ar gau bob amser.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Rhaid gofalu bob amser nad oes unrhyw eitemau’n cael eu gadael mewn ardaloedd cyffredin, er mwyn sicrhau bod modd cyrraedd pob allanfa dân ac er mwyn osgoi unrhyw berygl y gallai tanau ddechrau mewn ardal ddiogel o ran tân.
DYLECH GADW AT Y RHEOLAU HYN BOB AMSER, AC OS BYDDWCH YN GWELD UNRHYW BERYGLON POSIBL YN EICH ARDALOEDD CYFFREDIN DYLECH EIN FFONIO AR 0800 854 568 ER MWYN RHANNU EICH PRYDERON Â NI.