Y dreth ystafell wely a’r cap ar fudd-daliadau

Y DRETH YSTAFELL WELY

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod am y dreth ystafell wely a’r cap ar fudd-daliadau…

Os oes gennych fwy o ystafelloedd gwely nag y mae Llywodraeth y DU o’r farn bod arnoch eu hangen, bydd eich budd-dal tai neu’r elfen o’ch Credyd Cynhwysol sy’n ymwneud â chostau o ran tai’n cael eu lleihau. Wrth asesu eich hawliad, caniateir i chi gael un ystafell wely ar gyfer:

  • Pob cwpl sy’n oedolion.
  • Unrhyw berson arall 16 oed neu hŷn.
  • 2 blentyn dan 16 oed o’r un rhyw.
  • 2 blentyn dan 10 oed, beth bynnag fo’u rhyw.
  • Unrhyw blant eraill.
  • Gofalwr (nad yw’n byw gyda chi fel rheol) os oes angen gofalwyr dros nos arnoch chi neu ar eich partner.
  • Os oes gennych anabledd a bod angen ystafell sbâr arnoch fel bod gofalwr yn gallu aros dros nos, dywedwch wrth eich adran Budd-dal Tai fel y gellir diweddaru eich hawliad am fudd-dal tai.

Ni fydd y dreth hon yn effeithio arnoch os ydych chi neu’ch partner yn ddigon hen i gael credydau pensiwn.

Os oes gennych un ystafell wely ‘sbâr’, bydd 14% o’r swm wythnosol llawn y mae gennych hawl iddo’n cael ei dynnu allan o’ch budd-dal tai. Os oes gennych 2 neu fwy o ystafelloedd gwely sbâr, byddwch yn colli 25% o’ch budd-dal tai/costau o ran tai.

Os bydd eich budd-dal yn cael ei leihau, bydd eich rhent yr un peth o hyd a bydd disgwyl felly i chi dalu’r gwahaniaeth rhwng eich budd-dal tai/costau o ran tai a’ch rhent.

Y CAP AR FUDD-DALIADAU

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod…

Ceir cyfyngiad ar gyfanswm y budd-daliadau y gall y bobl sydd yn eich cartref eu cael, ac mae’r budd-daliadau dan sylw’n cynnwys y canlynol:

  • Budd-dal tai.
  • Lwfans ceisio gwaith.
  • Lwfans cyflogaeth a chymorth (oni bai eich bod yn cael yr elfen gymorth).
  • Budd-dal plant.
  • Credyd treth plant.
  • Lwfans gofalwr.
  • Credyd Cynhwysol.

Os yw’r cyfanswm yn fwy na’r uchafswm a ganiateir, bydd eich taliadau budd-dal tai/costau o ran tai’n cael eu lleihau.

Ni fydd yn berthnasol i chi os ydych yn cael credyd pensiwn neu gredyd treth gwaith neu os oes rhywun yn eich cartref yn hawlio lwfans byw i’r anabl, lwfans gweini neu elfen gymorth y lwfans cyflogaeth a chymorth.

Os ydych yn poeni am allu fforddio talu eich rhent, siaradwch â ni er mwyn cael gwybod am wahanol ffyrdd o dalu a chael help a chyngor.

HELP A CHYNGOR

Os yw’r dreth ystafell wely neu’r cap ar fudd-daliadau yn effeithio arnoch chi, neu os ydych yn poeni am allu fforddio talu eich rhent, siaradwch â ni er mwyn cael gwybod am wahanol ffyrdd o dalu a chael help a chyngor. Gallwch:

  • Siarad â ni am symud i gartref llai o faint – gallwn gynnig cyngor a £500 i’ch helpu gyda chostau symud.
  • Cael cyngor gan ein Tîm Atebion Ariannol a fydd efallai’n gallu eich helpu i wneud cais am daliad disgresiwn at gostau tai, a rhoi cyngor i chi ynghylch gwneud cais am fudd-daliadau eraill.
  • Ystyried cymryd lojer.
  • Ceisio dod o hyd i waith gyda thâl er mwyn cynyddu eich incwm.

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →