Adolygiad Rhent Grŵp ateb 2024: Dylai’r llythyrau eich cyrraedd yn fuan.

Bob blwyddyn, byddwn yn adolygu ein rhent a’n taliadau gwasanaeth er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu darparu’r gwasanaeth gorau posibl sy’n cynnig gwerth am arian. 

Mae llythyrau sy’n rhoi gwybod i chi am rent y flwyddyn nesaf wedi cael eu postio heddiw (ddydd Gwener 26 Ionawr) a dylent eich cyrraedd yr wythnos nesaf. 

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gweld cynnydd yn eu rhent a’u taliadau gwasanaeth eleni, ac rydym yn sylweddoli y gall hynny beri pryder i rai. 

Mae ateb wedi cyflwyno sawl ffordd o gynorthwyo cwsmeriaid y gallai’r cynnydd mewn taliadau beri anhawster iddynt. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu unrhyw bryderon, mae croeso i chi anfon neges ebost i [email protected] neu ein ffonio ar 0800 854 568.