Ymuno â ni

Mae sawl ffordd y gallwch ymuno â’r tîm yn ateb:

Swyddi Gwag

Ar hyn o bryd, rydym yn cyflogi tua 130 o bobl. Os hoffech ymuno â ni, cliciwch yma i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar hyn o bryd.

Aelodaeth o’r Bwrdd

Mae bod yn aelod o Fwrdd ateb yn eich rhoi mewn sefyllfa wych i wneud gwahaniaeth i fywydau llawer o bobl ar draws y gorllewin. Cliciwch yma i gael gwybod mwy am sut mae dod yn aelod o’r Bwrdd.

Profiad Gwaith a Gwirfoddoli

Rydym yn cefnogi amrywiaeth o opsiynau profiad gwaith a gwirfoddoli. Gallwch weld yr hyn y gallwn ei gynnig drwy glicio yma.

Prentisiaethau

Rydym yn cefnogi amrywiaeth o gyfleoedd i gael prentisiaeth. Cliciwch yma i glywed beth sydd gan rai o’n prentisiaid i’w ddweud.

Mae grŵp ateb wedi ymrwymo’n llwyr i’r egwyddor o sicrhau cyfle cyfartal wrth gyflogi pobl ac wrth ddarparu ei wasanaethau tai. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob ymgeisydd am swydd a phob aelod o’n tîm yn cael eu trin yn gyfartal, ac na wahaniaethir yn eu herbyn am resymau’n ymwneud â’u nodweddion gwarchodedig, h.y. oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.

Polisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth

Byddwn yn gwrthwynebu’n weithredol unrhyw achosion anghyfreithlon neu annheg o wahaniaethu neu aflonyddu, ac rydym yn credu mewn arfer gorau ym mhob agwedd o’n gwaith. Nod y polisi hwn yw dileu achosion o wahaniaethu ac aflonyddu, hybu cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da, sef yr egwyddorion sy’n sail i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

I weld ein Polisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth, ewch i’n tudalen Dogfennau.

           

Rydym wedi llofnodi adduned Tai Pawb, Gweithredu, Nid Geiriau ac wedi ymrwymo i fod yn Hyderus o ran Anabledd.

Ydych chi’n berson anabl neu’n berson Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol? Os byddwch yn llenwi ein ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, rydym yn gwarantu y byddwn yn eich cyfweld os byddwch yn bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd. Ni fydd y panel sy’n llunio’r rhestr fer yn gallu gweld y ffurflen; fodd bynnag, bydd y Tîm Pobl yn cael gwybod eich bod wedi dewis un o’r categorïau nodweddion gwarchodedig a restrir uchod, er mwyn galluogi’r tîm i adolygu eich cais yn erbyn y meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.

Os hoffech gael gwybod mwy, mae croeso i chi gysylltu â ni yma: [email protected]

 

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →