Gwasanaethau i bobl hŷn

Rydym yn darparu amrywiaeth o gynlluniau Byw’n Annibynnol a gwasanaethau cymorth hyblyg o safon, a gaiff eu teilwra i anghenion ein preswylwyr.

Rydym yn adolygu’r gwasanaethau hyn yn rheolaidd gan ymgynghori â phreswylwyr a rhanddeiliaid eraill. Rydym yn gwneud hynny er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau’n galluogi ac yn annog preswylwyr i gadw eu hannibyniaeth a’u bod yn diwallu anghenion, sy’n newid, yr awdurdodau lleol lle cânt eu darparu.

I weld rhestr o’n cynlluniau, darllenwch ein taflen  Cynlluniau Byw’n Annibynnol.

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu ag [email protected] neu ein ffonio ar 0800 854 568

Mae gennym restr aros agored ar gyfer ein cynlluniau byw’n annibynnol. I fod yn gymwys i wneud cais, bydd yn rhaid eich bod yn 55 oed neu hŷn a bydd angen i chi lenwi ein Ffurflen Gwneud Cais am Dŷ a’i hanfon yn ôl i [email protected]

 

Rydym yn cynnig nifer o wasanaethau i’ch helpu i aros yn eich cartref eich hun…

Gwasanaeth Cymorth Byw’n Annibynnol

Os ydych yn byw mewn cynllun Byw’n Annibynnol neu mewn cartref arall a ddarperir gan ateb, ac os ydych yn 55 oed neu’n hŷn a bod angen cymorth arnoch, rydym yma i helpu. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein  llyfryn Gwasanaeth Cymorth Byw’n Annibynnol, neu i atgyfeirio rhywun gallwch gysylltu â ni trwy anfon ebost at [email protected] neu ein ffonio ar 01437 763688.

Larymau Cymunedol

Am dâl bach bob wythnos, gallwch gael larwm Lifeline i’w wisgo am eich gwddf, sy’n cysylltu â chanolfan reoli bwrpasol os oes angen help arnoch. Diben hynny yw rhoi tawelwch meddwl i chi’n ogystal â sicrhau eich bod yn ddiogel yn eich cartref eich hun. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein  Taflen Gwasanaeth Larymau Cymunedol.

Llenwch y  Ffurflen Ar-lein os hoffech wneud cais am larwm, a bydd aelod o’n tîm gwasanaethau i gwsmeriaid yn cysylltu â chi cyn bo hir i drafod.

Cymhorthion ac addasiadau

I gael mân addasiadau megis canllawiau cydio, sedd yn y gawod neu dapiau lifer, llenwch y ffurflen Mân Addasiadau sydd ar-lein.

Os oes angen addasiad mwy arnoch, megis cawod heb ris i fynd i mewn iddi neu lifft risiau, cysylltwch â Chyngor Sir Penfro ar 01437 764551 a bydd y Cyngor yn trefnu bod therapydd galwedigaethol yn dod i gwrdd â chi ac yn asesu eich anghenion.

Pan fyddwn wedi cael asesiad y therapydd galwedigaethol, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu bod y gwaith yn cael ei gyflawni drwy ein his-gwmni, Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru. Os oes unrhyw reswm pam na allwn awdurdodi’r addasiad, byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich opsiynau.

Diffibrilwyr

Mae diffibrilwyr wedi’u gosod ym mron bob un o’n Cynlluniau Byw’n Annibynnol (gallwch ddarllen mwy yma).

I fynd at ddiffibriliwr, bydd angen i chi ffonio’r gwasanaethau brys a chael cod.

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →