Y newid yn yr hinsawdd a chi, arolwg 2 funud.

Mae Tai Pawb, sefydliad sy’n hybu cydraddoldeb ym maes tai, a’r Brifysgol Agored yn gweithio gyda’i gilydd i ddysgu sut y mae’r argyfwng hinsawdd yn effeithio ar dai a gwasanaethau.

Y nod yw casglu gwybodaeth ar gyfer ymgyrch sy’n helpu’r sector tai, tenantiaid a chymunedau i wneud dewisiadau da a theg wrth ymdrin â materion sy’n ymwneud â’r hinsawdd.

Bydd eich barn yn yr arolwg yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Ymunwch â ni i rannu eich barn am y newid yn yr hinsawdd drwy gwblhau eu harolwg yma.

Mae’r arolwg yn ddienw, a dim ond mewn fformat ystadegol nad oes modd adnabod unigolion wrtho y bydd y wybodaeth yn cael ei rhannu.

Os hoffech ddysgu mwy am Tai Pawb, ewch i www.taipawb.org

Os hoffech ddysgu mwy am y Brifysgol Agored, ewch i www.open.ac.uk

Os oes gennych unrhyw bryderon am yr arolwg, cysylltwch ag [email protected]

Cyhoeddwyd: 23/02/2024