Ein hanes

Cafodd ateb ei sefydlu yn 1981 fel Cymdeithas Tai Sir Benfro ac roedd eiddo cyntaf y gymdeithas dai ym Mhenfro.

Dros y 36 blynedd wedyn, enillodd Cymdeithas Tai Sir Benfro enw da am ddarparu cartrefi fforddiadwy newydd ar gyfer cymunedau gwledig a threfol, gyda gwasanaeth o safon uchel i’w thenantiaid a’i chymunedau.

Cafodd strwythur y grŵp ei ffurfio pan ymunodd Gofal a Thrwsio Sir Benfro â grŵp Cymdeithas Tai Sir Benfro yn 2001, gan uno wedyn â Gofal a Thrwsio Ceredigion yn 2015 i ffurfio Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru. Yn 2012 cafodd Mill Bay Homes ei ychwanegu at y grŵp er mwyn adeiladu cartrefi i’w gwerthu, gyda’r holl elw’n cael ei ailfuddsoddi yn y rhiant-gwmni er mwyn darparu rhagor o gartrefi fforddiadwy. Cafodd Effective Building Solutions (EBS) ei sefydlu yn 2016 fel cyfrwng posibl i hybu trefniadau gweithio ar y cyd. Nid yw EBS yn weithredol ar hyn o bryd.

Ar 1 Mawrth 2018 cafodd Cymdeithas Tai Sir Benfro ei hailenwi yn ateb, a’n dyhead yw gwella ein gwasanaethau presennol ymhellach a bod ar gael i gynnig gwasanaethau newydd dros ardal ddaearyddol ehangach os cawn ein gwahodd i wneud hynny.

Rydym yn falch iawn o’n hanes, ein treftadaeth a’n llwyddiannau a byddwn yn parhau i ddefnyddio ein hanes er mwyn helpu i gefnogi ein hawydd i wneud gwahaniaeth yn y dyfodol.

 

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →