Cofiwch mai dim ond problemau atgyweirio sy’n peryglu bywyd neu strwythur eich cartref fydd yn cael sylw ein gwasanaeth atgyweirio brys y tu allan i oriau gwaith. Mae’r problemau hynny’n cynnwys:
- Pibellau sydd wedi byrstio.
- Tân sydd wedi digwydd mewn tŷ.
- Draeniau sydd wedi blocio.
- Dim gwres yn ystod yr hydref a’r gaeaf.
- Dim trydan o gwbl.
- Difrod difrifol yn dilyn storm.
Os nad yw’r gwaith atgyweirio’n argyfwng, dylech lenwi ein
Ffurflen Ar-lein.
Pan fydd angen i chi ofyn am waith atgyweirio brys y tu allan i oriau gwaith arferol, bydd cwmni o’r enw Galw Gofal yn ymdrin yn broffesiynol â’ch galwad ar ran Grŵp ateb.
Byddwch yn gofyn am y gwaith atgyweirio brys yn yr un modd ag arfer, drwy ein ffonio ar 0800 854568
Cyfrifoldebau atgyweirio
Ein cyfrifoldebau ni: Mae cadw eich cartref mewn cyflwr da yn gyfrifoldeb a rennir rhyngoch chi ac ateb. Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod eich cartref yn cael ei gynnal a’i gadw i’r safon uchaf posibl.
Eich cyfrifoldebau chi: Mae eich rhent yn cynnwys taliad tuag at gost y rhan fwyaf o atgyweiriadau, ond mae gennych chithau fân gyfrifoldebau hefyd o safbwynt cynnal a chadw eich cartref.
Mae rhagor o fanylion i’w cael yn y rhestr o
Gyfrifoldebau’r Tenant a’r Landlord o safbwynt Atgyweirio.