Gwelliannau arfaethedig

Mae ateb yn neilltuo swm o arian bob blwyddyn i amnewid amryw eitemau’n rheolaidd yn eich cartrefi er mwyn eu cadw mewn cyflwr da. Caiff y rhaglen honno ei galw’n rhaglen gwelliannau arfaethedig.

Gwelliannau arfaethedig

Mae gennym gylch amnewid ar gyfer yr holl elfennau unigol sydd mewn tai – ceginau, ystafelloedd ymolchi, ffenestri ac ati – a chaiff cartrefi eu harolygu’n gyson er mwyn ein galluogi i asesu pryd y bydd angen i’r gwaith amnewid ddigwydd. Mae’n bwysig iawn ein bod yn gallu mynd i mewn i’ch cartref i gynnal yr arolwg hwn.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd yr arolwg yn cael ei gynnal, ac yn rhoi gwybod i chi am unrhyw waith y bwriedir ei gyflawni yn eich cartref. Bydd ein contractwyr yn cysylltu’n uniongyrchol â chi i drefnu bod modd iddynt fynd i mewn i’ch cartref i gyflawni’r gwaith y maent yn ei wneud ar ein rhan. Fe welwch restr isod o’n contractwyr cymeradwy ar gyfer gwelliannau arfaethedig.

  • Caiff ceginau eu hasesu bob 15 mlynedd i weld a oes angen eu hamnewid. Os oes angen cegin newydd, byddwn bob amser yn gofyn i chi beth yr hoffech ei gael o ran wynebau gweithio, unedau a lliwiau lloriau sydd â gorffeniadau a fydd yn eich atal rhag llithro. Gallwch drafod hynny â’n tîm gwelliannau arfaethedig a’n contractwr.
  • Caiff ystafelloedd ymolchi eu hasesu bob 25 mlynedd i weld a oes angen eu hamnewid. Os oes angen ystafell ymolchi newydd, byddwn yn trafod â chi pa ddewisiadau sydd ar gael o ran lloriau a fydd yn eich atal rhag llithro ac o ran byrddau ar gyfer y waliau.
  • Caiff ffenestri a drysau allanol eu hasesu hefyd ar sail cylch o 25 mlynedd.
  • Caiff profion trydanol eu cynnal bob amser pan fydd tenantiaeth yn newid, a chânt eu cynnal bob 5 mlynedd fel mater o drefn.

Contractwyr cymeradwy ar gyfer gwelliannau arfaethedig

Rydym yn defnyddio arbenigedd contractwyr allanol i gyflawni llawer o’n gwelliannau i gartrefi. Isod, fe welwch restr o’n contractwyr allanol presennol. Dylai pob un ohonynt fod yn cario dogfen neu fathodyn adnabod a dylent fod wedi cysylltu â chi cyn ymweld â’ch cartref – ni ddylai neb ymweld â chi’n ddirybudd. Os bydd gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am gontractwr sy’n ymweld â chi neu’n eich ffonio, mae croeso bob amser i chi ein ffonio ni ar 0800 854 568 i gadarnhau bod popeth yn iawn.

ADS – Ceginau ac ystafelloedd ymolchi

LCB – Patios, cerrig palmant, ffensys, toeau, gwaith rendro a gwaith allanol

Solar Windows – Ffenestri a drysau

Ling Electrical – Diweddaru larymau mwg

Llantrisant Firestop Solutions – Drysau tân

Gwresogi a phlymio – I’w gadarnhau 

Hoffech chi gael gwybod mwy am y gwelliannau arfaethedig ar gyfer eich cartref?

Mae croeso i chi siarad ag aelod o’n tîm cyswllt ar 0800 854 568

Cod Ymddygiad – Mae’n esbonio’r ymddygiad y gallwch ei ddisgwyl pan fyddwn yn anfon contractwr i gyflawni gwaith yn eich cartref.

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →