Fy Nghyfrif ateb

Dyma gyfle i chi ddweud eich dweud….

Diben yr arolwg:

Rydym yn ymchwilio i’r modd y mae ein cwsmeriaid yn defnyddio Fy Nghyfrif ateb, a hoffem glywed eich barn er mwyn i ni allu gwella’r cyfrif.

Mae a wnelo Fy Nghyfrif ateb â chi – mae’n golygu bod eich cofnodion personol a’ch ceisiadau unigol i gyd mewn un man y mae’n hawdd mynd iddo.

Cymerwch eich amser i lenwi’r holiadur byr hwn, a chofiwch achub ar y cyfle i ennill gwobr gwerth £100 ar y diwedd.

CANLYNIADAU: I weld beth a ddatgelwyd gan yr arolwg hwn, mae croeso i chi fynychu cyfarfod ein Grŵp Cynllunio Arolygon ar-lein, a gynhelir ddydd Mawrth 11 Mehefin 2024 rhwng 10:00 ac 11:00. Cysylltwch ag Ali Evans 01437 774766 / 07500 446611 / [email protected] i gael dolen gyswllt ar gyfer y fforwm hwn neu i gael copi o’r canlyniadau mewn fformat arall.

Bydd adroddiad llawn sy’n dangos canlyniadau’r arolwg hwn ar gael ar ein gwefan ym mis Medi 2024, ar dudalen Newyddion.

Bydd yr arolwg hwn ar agor tan 31/05/24

Cyhoeddwyd 08/04/24