Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymweld â Kensington Court i weld gwelliannau rhagorol.

Ym mis Mawrth, gwnaethom wahodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i Kensington Court yn Aberdaugleddau i weld y gwelliannau yr ydym wedi bod yn eu gwneud gyda’n partneriaid Fire Immunity.

Yn ystod arolwg diweddar gan y Gwasanaeth Tân, nodwyd bod yr addasiadau newydd yn rhagorol. Eu nod yw sicrhau bod Kensington Court yn fwy diogel ar gyfer ein cymunedau sy’n byw yno.

Meddai Stuart Macdonald, Rheolwr Diogelwch Tân Busnesau Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer Sir Benfro: “I’r staff sydd yma heddiw, mae’n gyfle gwych iddynt ddysgu sut beth yw da.”

“I’r staff sydd yma heddiw, mae’n gyfle gwych iddynt ddysgu sut beth yw da. Er enghraifft, yn y gorffennol rydym wedi gweld bod defnyddio ewynnau sy’n gwrthsefyll tân yn un ffordd o helpu i atal tân rhag ymledu mewn adeiladau. Bydd y wybodaeth a rannwyd yma heddiw gan yr arbenigwyr yn y maes yn ein helpu i symud ymlaen, gan gydnabod cyfyngiadau’r deunyddiau hyn sy’n stopio tân a chydnabod y technegau gosod cywir y dylid eu defnyddio i sicrhau safon addas a digonol o ran diogelwch tân.

“Mae heddiw wedi bod yn wirioneddol dda er mwyn i’n Swyddogion Diogelwch Tân a’n Criwiau Gweithredol wella eu hymwybyddiaeth o’r technegau diweddaraf a’r modd y dylem i gyd fod yn ceisio gwella diogelwch tân yn ein hadeiladau er mwyn sicrhau bod ein cymunedau mor ddiogel ag sy’n bosibl.”

Meddai Chris Fitzpatrick FSIDip, Rheolwr Gyfarwyddwr Fire Immunity sy’n gweithio gydag ateb i wneud y gwelliannau hyn: “Mae Fire Immunity yn falch o fod yn brif gontractwr sy’n cydweithio â Grŵp ateb ar draws cartrefi yn Aberdaugleddau a Hwlffordd.

“Rydym yn cyflawni llawer o waith mewn fflatiau preswyl ac ardaloedd cyffredin er mwyn sicrhau bod y dulliau anweithredol o ddiogelu pobl ac eiddo rhag tân o’r safon uchaf posibl. Mae’r gwaith adeiladu dan sylw’n arbennig o heriol ac mae’n cynnwys systemau gwydr sy’n gwrthsefyll tân, gwaith leinio sych, pibellwaith a systemau gwlychu, dulliau gweithredol ac anweithredol o ddiogelu pobl ac eiddo rhag tân, a gwaith addurno.”

Mae’r gwaith yn cynnwys 5 cam:

  • Estyniadau i larymau tân
  • Estyniadau i systemau chwistrellu
  • Dulliau stopio tân
  • Cladin
  • Lifftiau ar gyfer gadael eiddo mewn argyfwng

Y nod yw sicrhau bod y cam sy’n ymwneud â dulliau stopio tân wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Medi, cyn dechrau ar y cladin.

Diolchodd Ian Whitby, Arolygwr Cydymffurfio ateb (Diogelwch Tân), yn fawr iawn i gwsmeriaid ateb sydd wedi cydnabod yr heriau y mae’r holl waith yn eu hachosi a rhoddodd ganmoliaeth i’r cwsmeriaid am eu hamynedd a’u parodrwydd i ddeall:

“Er mwyn i bethau gael eu gwneud yn effeithlon ac yn hwylus mae cwsmeriaid wedi symud i fflatiau eraill, am dros wythnos weithiau, tra mae ein timau wedi bod yn brysur yn gwneud newidiadau yn eu cartrefi. Nid yw hynny wedi bod yn hawdd ond mae pawb wedi bod yn wirioneddol gefnogol, amyneddgar a pharod i helpu. Mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth, felly diolch o galon i bawb y mae’r gwaith wedi effeithio arnynt.”

Meddai Phil Owen, Rheolwr Prosiectau Mawr newydd ateb: “Gwnaethom wahodd y Gwasanaeth Tân yma i edrych ar arfer da, ac rydym yn falch bod y swyddogion wedi gallu ymuno â ni heddiw.”

“Mae hefyd yn braf clywed eu bod yn bwriadu defnyddio eu seminar nesaf ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn nes ymlaen eleni i rannu rhai o’r pethau y maent wedi’u gweld a’u dysgu heddiw ag aelodau eraill o staff Diogelwch Tân Busnesau ar draws Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae tua 60 ohonynt ar hyn o bryd. Mae hefyd yn bwysig i ni ystyried beth yr ydym yn ei wneud yn ateb, a’n bod yn sicrhau bod datblygiadau yn y dyfodol yn ymgorffori rhai o’r technolegau diweddaraf sy’n sicrhau bod ein cartrefi’n fwy diogel fyth.”

Disgwylir hefyd i waith ddechrau ar De Clare Court yn Hwlffordd yn fuan iawn, ac yn dilyn eu gwaith ardderchog yn Kensington Court rydym yn edrych ymlaen at groesawu Fire Immunity yn ôl ar gyfer yr ail brosiect hwn. I gael gwybod mwy am Fire Immunity a’r technegau y mae’r cwmni yn eu defnyddio, ewch i’w wefan.

Cyhoeddwyd: 05/04/24