Astudiaeth heneiddio’n iach wedi cael effaith gadarnhaol.

Yn ystod COVID ac yn syth wedyn, gwelodd y Tîm Byw’n Annibynnol gynnydd yn nifer y cwsmeriaid a oedd yn cwympo yn eu cartrefi mewn cynlluniau. Roeddem am fod yn rhan o’r gwaith o ystyried sut mae cymryd camau rhagweithiol i atal pobl rhag cwympo, a sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu cynnal eu lefelau lles drwy fod yn actif ac yn annibynnol.

Yn ystod haf 2023, gwnaethom gysylltu â Smplicare a oedd yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn astudiaeth arloesol. Bwriad Smplicare oedd helpu i ddylanwadu ar ein safbwynt ar heneiddio’n iach.

Roedd ateb yn un o sawl sefydliad yn y DU a fu’n cymryd rhan yn yr astudiaeth, a chofrestrodd 9 o’n cwsmeriaid i gymryd rhan yn yr ymchwil.

Yn rhan o’r astudiaeth roedd yn rhaid i’r cwsmeriaid wisgo Fitbit neu watsh glyfar, a’u pwyso eu hunain unwaith y mis ar glorian glyfar a oedd yn cyfrifo data am eu hiechyd ac yn anfon y wybodaeth yn awtomatig i’r tîm ymchwil.

Buont hefyd yn llenwi holiaduron drwy gydol y cyfnod o 6 mis, gan nodi a oeddent wedi cwympo ac a oedd ganddynt unrhyw broblemau iechyd eraill.

Bu’r astudiaeth yn casglu gwybodaeth hynod o fanwl drwy’r ap ymchwil, megis gwybodaeth am gyfrif camau, data am gwsg, a gwybodaeth am lefelau hydradu a dwysedd esgyrn, a bu hefyd yn casglu nodiadau gan y cwsmeriaid eu hunain am weithgareddau dyddiol.

O neidio ymlaen i fis Ionawr 2024 mae Smplicare wedi cyrraedd ei nod, sef cael 300 o wirfoddolwyr o bob cwr o’r DU i gofrestru ar gyfer yr astudiaeth, ac mae’n cael data am iechyd o amryw leoliadau a gan bobl o amryw gefndiroedd ethnig a grwpiau oedran.

Mae dros 150 o achosion o gwympo wedi’u nodi hyd yma ar yr ap ymchwil, ac mae’r tîm ymchwil yn gweithio’n galed i greu algorithm atal cwympiadau, sy’n edrych ar fetrigau iechyd y bobl sydd wedi cwympo yn ystod y cyfnod cyn iddynt i gwympo.

Rydym i gyd yn gwybod beth yw canlyniadau cwympo. Mae Smplicare “yn teimlo ei bod yn fraint cael gwybodaeth am iechyd pob cyfranogwr wrth i’r tîm geisio datblygu adnodd i atal pobl rhag cwympo”.

Yn ôl ein cwsmeriaid sydd wedi cofrestru, mae’r ffaith eu bod yn cymryd rhan yn yr astudiaeth wedi arwain at ganlyniadau eilaidd iddynt.

Meddai Val o Williams Court: “Fe wnes i elwa o’r ymchwil gan fy mod wedi gallu defnyddio’r Fitbit i fonitro’r anhwylder sydd ar fy nghalon ac wedi gallu dysgu sut i’w reoli fy hunan, a oedd yn golygu llai o apwyntiadau gyda’r meddyg teulu.”

Meddai Sian o Williams Court: “Mae wedi cynyddu’r ymarfer corff rwy’n ei wneud, gan fod y cyfrif camau ar fy watsh glyfar yn fy nghymell i fynd am dro yn amlach nag o’r blaen.”

Meddai Dorian o Williams Court: “Roedd bod yn rhan o’r ymchwil yn rhoi boddhad i fi, gan ein bod yn arwain y ffordd ym maes ymchwil i iechyd er mwyn datrys problemau sy’n effeithio’n fawr ar fywydau’r genhedlaeth hŷn.”

Meddai Gina, Cydlynydd Byw’n Annibynnol ateb, a fu’n cynorthwyo’r cwsmeriaid a Smplicare i gydweithio ar yr ymchwil: “Mae wedi bod yn wych gweld effaith yr astudiaeth hon. Mae’r watshis clyfar wedi gwneud gwahaniaeth i’r modd y mae ein preswylwyr wedi bod yn ystyried eu hiechyd, ac maent wedi’u hannog i wella eu ffitrwydd. Mae cymryd rhan wedi cael effaith gadarnhaol hefyd ar eu hiechyd meddwl, oherwydd maent yn gwybod eu bod yn cyfrannu i astudiaeth bwysig a allai effeithio ar filiynau o fywydau, yn dibynnu ar ganlyniadau’r astudiaeth a’r dechnoleg a gaiff ei datblygu yn y dyfodol yn ei sgil. At ei gilydd, mae cymryd rhan yn yr astudiaeth wedi esgor ar lawer o bethau cadarnhaol, a byddem yn fwy na pharod i fod yn rhan o waith ymchwil pellach yn y dyfodol.”

Published: 25/03/2024