Archebwch eich lle yn un o’n Cymanfaoedd Blynyddol i Gwsmeriaid yn 2024

Ymunwch â ni am ginio ac i glywed beth y mae ateb wedi’i gyflawni a pha heriau yr ydym wedi’u hwynebu ers i ni gwrdd ddiwethaf yn y Cymanfaoedd Blynyddol ym mis Mai 2023.

Byddwn hefyd yn ystyried y canlynol:

  • y Safon Ansawdd Tai Cymru newydd a beth y bydd yn ei olygu i chi a’ch cartref.
  • sut y mae ateb yn cyflawni rhaglen waith i wneud yn siŵr bod eich cartref a’ch cymuned yn lle gwych i fyw a ffynnu ynddo.
  • beth y mae ateb wedi bod yn ei wneud i ddarparu cartrefi mwy gwyrdd a mwy effeithlon o ran ynni, a beth yw ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Mae’r digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim ac yn agored i holl gwsmeriaid ateb.

Bydd yna ginio blasus a llawer o de, coffi, bisgedi a chacen. Dylech nodi unrhyw anghenion dietegol wrth archebu eich lle.

Gallwn eich helpu i drefnu amrywiaeth o gludiant, gan gynnwys cludiant i bobl ag anabledd, a gallwn dalu unrhyw gostau cludiant gan gynnwys eich costau os byddwch yn teithio yn eich cerbyd eich hun. Dylech ofyn am yr help hwn wrth archebu eich lle.

Nodwch:

  • Mae’r ddau leoliad yn hygyrch
  • Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion dietegol
  • Gallwn gynnig help i ofalwyr

NIFER GYFYNGEDIG O LEOEDD SYDD AR GAEL, FELLY COFIWCH ARCHEBU EICH LLE CYN GYNTED AG SY’N BOSIBL

Gallwch archebu eich lle ar-lein yma

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:

Ali Evans (Cydlynydd Ymgysylltu)

Sue Mackie (Arweinydd y Tîm Datblygu Cymunedol)

Os hoffech ofyn unrhyw gwestiwn am y digwyddiad hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Edrychwn ymlaen at eich gweld ar y diwrnod.

Cyhoeddwyd: 23/04/2024