Caiff dros 20,000 o danau eu hachosi gan ddiffygion trydanol bob blwyddyn yng nghartrefi’r DU. Bydd ein harchwiliad diogelwch trydan yn sicrhau diogelwch eich system drydan yn rheolaidd, ond prif achos tanau’n ymwneud â’r system drydan mewn tai yw teclynnau diffygiol.
Bydd y cyngor syml hwn am ddiogelwch trydan yn helpu i ‘ch cadw chi a’ch teulu yn ddiogel.
- Diffoddwch unrhyw declynnau pan na fyddant yn cael eu defnyddio a thynnwch unrhyw blygiau allan o’u socedi, yn enwedig pan fyddwch yn mynd i’r gwely.
- Peidiwch â gadael i geblau tegellau, peiriannau tostio neu declynnau eraill ymestyn ar draws eich ffwrn.
- Peidiwch byth â rhoi ceblau hyblyg teclynnau dan eich carped neu rygiau.
- Os byddwch yn gweld olion llosgi neu’n sylwi bod socedi’n boeth, rhowch wybod i ni.
- Gwiriwch gebl teclyn cyn ei ddefnyddio. Os byddwch yn gweld ôl traul neu’n sylwi nad yw plwg y teclyn yn hollol sownd, peidiwch â’i ddefnyddio.
- Peidiwch byth â gorlwytho addaswyr trydan a phlygio gormod o declynnau i mewn i un soced.
- Defnyddiwch blygiau sy’n cydymffurfio â Safon Brydeinig 1363 neu 1363A. Gwnewch yn siŵr eu bod wedi’u ffitio yn iawn a bod y ffiws gywir ynddynt.
- Mae angen ffiws 3 amp ar glociau, radios, lampau bwrdd a setiau teledu du a gwyn.
- Peidiwch â defnyddio bwlb sydd â watedd uwch na’r hyn sydd wedi’i nodi ar eich ffitiad golau.
- Mae angen ffiws 5 amp ar setiau teledu lliw, driliau trydan, peiriannau cymysgu bwyd, sychwyr gwallt, heyrn smwddio a pheiriannau sugno llwch.
- Mae angen ffiws 13 amp ar danau trydan, tegellau, peiriannau tostio a pheiriannau golchi dillad. Peidiwch byth â chysylltu teclyn trydan â ffitiad golau.
- Gofynnwch bob amser am gyngor proffesiynol ynghylch teclynnau trydan.
- Profwch eich larwm mwg yn rheolaidd.
Archwiliadau diogelwch trydan
Bydd angen i’n tîm fynd i mewn i’ch cartref bob 5 mlynedd i archwilio eich system drydan. Mae’n bwysig tu hwnt eich bod yn ein gadael i mewn fel bod yr archwiliad hwn yn gallu digwydd. Mae hynny’n un o ofynion eich tenantiaeth ac mae’n allweddol i iechyd a diogelwch yn eich cartref chi ac mewn cartrefi cyfagos.