Ymgysylltu i Wella (e2i)

Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni 

Rydym am alluogi pob un o’n cwsmeriaid i ymgysylltu ag ateb mewn ffyrdd sy’n addas iddynt, er mwyn i ni allu gwella a datblygu eich gwasanaethau fel yr ydych yn dymuno.

Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni. Felly, byddwn bob amser yn ceisio canolbwyntio ar y gwelliannau sydd o’r pwys mwyaf i chi. Wrth gwrs, bydd hynny’n ychwanegol at ein hymdrech i geisio datrys unrhyw broblemau unigol cyn gynted ag y gallwn.

Byddwn yn:

  • GWRANDO: Gan ddefnyddio rhestr e2i o welliannau, byddwn yn gwrando ar gynifer ag sy’n bosibl o wahanol safbwyntiau/syniadau neu sylwadau ynghylch sut y gallwn wneud pethau’n well ar gyfer pob thema.
  • DEALL: Gyda’ch adborth, byddwn yn ceisio deall beth y mae angen i ni ei wella a ble.
  • GWELLA: Byddwn yn datblygu rhestr o gamau gweithredu y mae angen i ni eu cymryd er mwyn gwella ein gwasanaeth.
  • DYSGU: Yn olaf byddwn yn adolygu’r camau gwella a gwblhawyd, er mwyn dysgu pa wahaniaeth yr ydym wedi’i wneud.

Calendr o Ddigwyddiadau e2i

Edrychwch ar galendr e2i ar gyfer 2024

Edrychwch ar galendr e2i ar gyfer 2023

Edrychwch ar galendr e2i ar gyfer 2022

It matters to us...

Felly, pa themâu gwella yr ydym yn gweithio arnynt?

Ar sail eich adborth, rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar y themâu gwella canlynol:

  • Rhagfyr 19 – Gwaith Atgyweirio
  • Chwefror 20 – Rheoli Ystadau
  • Hydref-Rhagfyr 20 – Cwsmeriaid Agored i Niwed a’r Pandemig
  • Ionawr 21 – Cost Rhent
  • Chwefror-Mawrth 21 – Disgwyliadau o ran Cymorth Ymarferol
  • Mai-Mehefin 21 – Profiad Unigolion
  • Gorffennaf 21 – Arolwg Cynllun Adferiad
  • Awst-Medi 21 – Yr adolygiad Ymgysylltu â Chwsmeriaid blynyddol
  • Tach-Rhag 21 – Arolwg Seren
  • Ionawr 22 – Cost Rhent
  • Ebrill-Mai 22 – Yw ateb yn gwrando arnoch?
  • Gorff-Awst 22 – Yr adolygiad Ymgysylltu â Chwsmeriaid blynyddol

Caiff y rhestr hon ei hadolygu’n rheolaidd gan grŵp cydlynu e2i a chaiff ei diweddaru ar sail eich adborth chi. Os ydych yn teimlo ein bod wedi gadael rhywbeth allan, ewch i’n tudalen Adborth.

Sut y gallwch gymryd rhan?

Mae llawer o ffyrdd y gallwch roi eich barn. Does dim angen i chi ddod i gyfarfodydd – gallwch ymwneud ag e2i mor aml ag y dymunwch. Dyma rai ffyrdd y gallwch wella’r hyn yr ydym yn ei wneud yn ateb:

Rhestr e2i o welliannau: Bob yn ail fis, pan fyddwch yn rhyngweithio ag un o’n timau, efallai y byddwn yn gofyn i chi am eich barn am y thema wella yr ydym yn ei hadolygu’r mis hwnnw. Fyddwn ni ddim yn gofyn llawer o gwestiynau i chi ond bydd pob un o’ch sylwadau yn ein helpu.

Fforwm Cwsmeriaid: Dewch i un o’n Fforymau Cwsmeriaid i sgwrsio â ni am unrhyw adborth sydd gennych. Byddwn yn defnyddio’r adborth i sicrhau ein bod yn gweithio ar y themâu cywir. Cliciwch yma i weld dyddiadau a lleoliadau ein Fforymau Cwsmeriaid.

Grŵp Cynllunio Arolygon e2i: Dewch i un o gyfarfodydd ein grŵp cydlynu e2i i drafod themâu gwella’r dyfodol neu i adolygu canlyniadau’r themâu gwella sydd wedi’u cwblhau. Cliciwch yma i weld Dyddiadau ein cyfarfodydd nesaf a’n themâu gwella nesaf.

Digwyddiadau yn y gymuned: Rydym yn cynnal llawer o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn lle gallwch gwrdd â’r staff a rhannu eich barn â ni.  Cadwch olwg ar ein tudalennau ar gyfryngau cymdeithasol i weld manylion unrhyw ddigwyddiadau Ymgysylltu i Wella.

Dweud wrthym yn uniongyrchol: Ffoniwch ni neu defnyddiwch ein gwefan, ein cyfryngau digidol, ein derbynfeydd neu unrhyw ryngweithio â’n timau i ddweud wrthym beth yw eich barn am ateb neu am y themâu gwella yr ydym yn gweithio arnynt o ran e2i. Cliciwch yma i weld sut mae cysylltu â ni.

Grwpiau Cwsmeriaid: Os yw un o’n Cymdeithasau Tenantiaid yn cyfarfod yn eich ardal leol chi, ymunwch â hi. Cliciwch yma i weld manylion ein Grwpiau Cwsmeriaid presennol ac i weld sut mae sefydlu Cymdeithas newydd.

Pa themâu rydym wedi eu hystyried mor belled?

Dyma’r themâu gwella rydym wedi eu cwblhau hyd yma:

23/24

Hydref/Tach: Cost Rhent

Gorffenaf/Awst:e2i/#30 Adolygiad Blynyddol Ymgysylltu

Ebrill/Mai:e2i/#29 Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Ionawr: e2i/#25 Glanhau Ardaloedd Cyffredin 2023

22/23

Hydref-Tachwedd: e2i/#23 Cynnal a Chadw – Contractwyr Allanol

Gorffennaf-Awst: e2i/#22 Ymgysylltu â Chwsmeriaid 2022 – Adolygiad Blynyddol

Ebrill-Mai: e2i/#28 Yw ateb yn gwrando arnoch?

21/22

Awst-Medi: e2i/#21 Ymgysylltu â Chwsmeriaid 2021: A yw’n gweithio i chi?

Gorffennhaf: e2i/#00 Cyswllt â Chwsmeriaid: Sut yr hoffech fod mewn cysylltiad â ni yn y dyfodol?

Mai-Mehefin: e2i/#19 Profiad Unigolion

20/21

Hyd-Rhag: e2i/#20 Cwsmeriaid Agored i Niwed a’r Pandemig

Chwef-Mawrth: e2i/#27 Disgwyliadau o ran Cymorth Ymarferol

19/20

Ebrill – E2I/05: Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Mehefin – E2I/09: Gwaith Cydymffurfio

Awst – E2I/13: Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau Gwaith Arferol

Hydref – E2I/14: Ymgysylltu â Chwsmeriaid/Tenantiaid

18/19

Ebrill – E2I/06: Taliadau Gwasanaeth

Mehefin – E2I/12: Credyd Cynhwysol

Awst – E2I/03: Cyfathrebu

Hydref – E2I/02: Ymgysylltu â Chwsmeriaid

Rhagfyr – E2I/07: Gwaith Cynnal a Chadw a Gynlluniwyd 

Chwefror – E2I/16: Addasiadau i Gartrefi

17/18

Awst – E2I/10: Cyfleoedd i Ymgysylltu

Hydref – E2I/11: Oes angen help arnoch i fynd ar-lein?

Chwefror – E2I/04: Trosglwyddo Eiddo Newydd

 

If it matters to you... It matters to us.

A ydym wedi gwneud gwahaniaeth?

Isod fe welwch chi ein hadroddiadau 6 misol ynghylch sut mae e2i yn gwneud gwahaniaeth, yn ein barn ni. Cofiwch ddweud wrthym os ydych yn teimlo ein bod wedi gadael rhywbeth allan neu os ydych yn anghytuno â’n hasesiad.

Awst 2023

Chwefror 2023

Awst 2022

Chwefror 2022

Awst 2021

Chwefror 2021

Awst 2020

Chwefror 2020

Awst 2019

Chwefror 2019

Awst 2018 

Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni!

Cofiwch, os oes gennych unrhyw broblemau brys y mae angen iddynt gael eu datrys yn gyflym, dylech bob amser gysylltu’n uniongyrchol â ni er mwyn i ni allu dod o hyd i ateb ar eich cyfer.

I sgwrsio am ein menter Ymgysylltu i Wella, cysylltwch ag Ali Evans:

01437 774766 / 07500 446611 / 01437 763688

[email protected]

 

 

 

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →