Dathlu cynwysoldeb yng nghyfarfod diweddaraf Grŵp ateb ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Arberth

Fis diwethaf, cafodd ein cyfarfod diweddaraf ynghylch cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ei gynnal ym Mhlas Hyfryd yn Arberth. Roedd yn ddigwyddiad bywiog ac addysgiadol a oedd wedi’i neilltuo i ddathlu a gwella ein cymorth i’r gymuned LHDTC yn ystod mis PRIDE. Roedd y cyfarfod yn llwyddiant ysgubol ac yn llawn trafodaethau diddorol, anerchiadau ysbrydoledig ac ymrwymiad gan bawb i feithrin amgylchedd mwy cynhwysol i bob un o’n cwsmeriaid a’n timau.

Tynnu sylw at Pride drwy wylio fideo byr a wnaeth beri i bawb feddwl

Gwnaethom ddechrau’r cyfarfod drwy ddangos fideo byr addysgiadol a oedd yn tynnu sylw at hanes mis PRIDE. Gwnaeth y fideo argraff fawr ar bawb a oedd yn bresennol, ac ysgogodd sgyrsiau ystyrlon ynghylch sut y gallwn gynorthwyo ein cwsmeriaid LHDTC yn well.

Trafodaethau diddorol am gynorthwyo’r gymuned LHDTC

Yn dilyn y fideo, bu’r sawl a oedd yn bresennol yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp bywiog a fu’n canolbwyntio ar gwestiwn hollbwysig, sef “Beth arall y gallwn ei wneud ar gyfer ein cwsmeriaid LHDTC?”. Llifodd y syniadau’n rhwydd wrth i’r cyfranogwyr rannu eu barn am ffyrdd o wella ein gwasanaethau, creu mannau mwy cynhwysol, a sicrhau bod lleisiau pobl LHDTC yn cael eu clywed a’u parchu yn ein cymuned.

Pwysigrwydd data am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Pwnc trafod allweddol arall oedd pwysigrwydd casglu data am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Efallai fod llawer o’n cwsmeriaid yn meddwl tybed pam yr ydym yn gofyn am y wybodaeth hon, ac roedd y cyfarfod yn gyfle ardderchog i esbonio pwysigrwydd y data. Mae data am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein helpu i ddeall anghenion amrywiol ein cwsmeriaid a deall a oes yna unrhyw beth sy’n rhwystro cyfranogiad, ac mae hynny’n ein galluogi i deilwra ein gwasanaethau’n fwy effeithiol. Drwy gasglu a dadansoddi’r data hwn, gallwn nodi meysydd ar gyfer gwella a sicrhau bod yr hyn a gynigir gennym yn gynhwysol ac yn deg i bawb.

Ymunwch â’n Grŵp Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym o’r farn bod y siwrnai tuag at fwy o gynwysoldeb yn siwrnai y mae’n rhaid i ni ei chyflawni gyda’n gilydd. Dyna pam yr ydym yn gwahodd pob un o’n cwsmeriaid i ymuno â’n Grŵp Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, sy’n cwrdd bob chwarter i drafod a datblygu strategaethau ar gyfer gwella ein hymdrechion ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae eich barn yn amhrisiadwy wrth i ni lunio ein gwasanaethau a chreu cymuned lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a’u gwerthfawrogi.

Os ydych yn teimlo’n angerddol ynghylch gwneud gwahaniaeth ac os hoffech gyfrannu i’n mentrau parhaus ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Ymunwch â chyfarfod nesaf ein Grŵp Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym mis Medi neu anfonwch eich awgrymiadau i [email protected].

Gyda’n gilydd, gadewch i ni barhau i greu cymuned sy’n fwy cynhwysol, cefnogol a bywiog i bawb.

Published: 03/07/2024