Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi cwblhau’n llwyddiannus ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio gyntaf yng Nghilgeti, Sir Benfro. Mae dros 80 o breswylwyr yn ein datblygiad yn Park Avenue wedi gweld gwelliannau sylweddol i gynaliadwyedd eu cartrefi, diolch i ymdrechion ein tîm ymroddgar.
Y garreg filltir hon yw dechrau rhaglen dair blynedd a ariennir gan Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru. Ein nod yw ôl-osod mesurau mewn 100 o gartrefi ar draws Sir Benfro, ac arolygu dros 1,000 o gartrefi eraill er mwyn nodi a chyflawni gwelliannau wedi’u targedu o ran ynni.
Ers mis Ionawr, rydym wedi gwella 25 o gartrefi drwy gyfres o brosiectau uwchraddio y bwriedir iddynt ddatgarboneiddio cartrefi a gwella amodau byw. Rydym wedi bod yn gosod deunydd inswleiddio allanol ar waliau pob cartref er mwyn hybu effeithlonrwydd thermol, ac wedi gosod synwyryddion amgylcheddol ym mhob cartref i fonitro tymheredd, lleithder, gwlithbwynt a lefelau carbon deuocsid. Bydd y synwyryddion yn darparu data amhrisiadwy ac yn helpu preswylwyr i optimeiddio eu defnydd o ynni, arbed arian a gwella eu hamgylcheddau byw.
Meddai Nick Hampshire, ein Prif Weithredwr: “Rydym yn falch o gwblhau cam cyntaf y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn Park Avenue. Mae’r preswylwyr wedi bod yn wirioneddol gefnogol ac maent yn awr yn gweld manteision y gwelliannau yr ydym wedi’u gwneud. Mae’r data a ddarperir gan y synwyryddion yn ein galluogi i helpu cwsmeriaid i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau o ran gwlybaniaeth a llwydni ac atal y problemau hynny, neu’n ein galluogi i weld ble y gallent fod yn talu gormod am eu hynni. Mae ein Swyddog Ynni Cartref wedi bod yn cysylltu’n uniongyrchol â phreswylwyr i drafod eu hanghenion penodol ac i wneud newidiadau os oes angen.
“Ynghyd ag ystod o bartneriaid, rydym yn falch o gyflawni’r rhaglen dair blynedd hon a fydd yn sicrhau bod ein stoc o dai’n addas i’r dyfodol ac yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru, drwy warantu sgôr Gweithdrefn Asesu Safonol o 75 neu fwy ym mhob eiddo yr ydym yn ei reoli.”
Mae ein tîm ar gyfer cyflawni’r prosiect yn cynnwys LCB o Gaerdydd, sef y prif gontractwr, a Wetherby Building Systems. iOPT sy’n gyfrifol am osod y synwyryddion.
Bu Chris Boyle sy’n byw yn Park Avenue yn sôn am ei brofiad cadarnhaol: “Mae lefel yr ymgysylltu â chwsmeriaid, cyn ac yn ystod y gwaith o osod y synwyryddion a’r deunydd inswleiddio allanol ar waliau, wedi gwneud argraff fawr arnaf. O’r ymgysylltu cyntaf i gwblhau’r gwaith, mae ateb wedi gwneud mwy na’r disgwyl i sicrhau bod ein hanghenion yn cael eu diwallu a bod ein cwestiynau’n cael eu hateb yn brydlon. Mae fy nghartref yn edrych yn wych ar ôl cael tu allan newydd, ac rwy’n fwy na bodlon â’r canlyniad. Mae’n braf gwybod bod fy nghartref yn cael ei wella, a bod ein cartrefi fel stryd yn fwy cynaliadwy ac yn fwy caredig i’r amgylchedd.”
Wrth edrych i’r dyfodol, rydym eisoes wedi dechrau ar welliannau tebyg yn Vineyard Vale yn Saundersfoot. Yn ystod ail flwyddyn y prosiect bydd cartrefi yn Garfield Gardens, Arberth ac yn Preseli Court, Doc Penfro yn elwa o gael deunydd inswleiddio allanol ar waliau ac o gael paneli solar a batris storio ynni. Yn ogystal, bydd gwelliannau pellach yn cael eu gwneud i wyth o gartrefi yn Harvard Close, Hwlffordd, a fydd yn cynnwys gosod cyfleusterau Sunamp i storio dŵr poeth, gosod pympiau gwres o’r aer a gosod systemau deallus i reoli gwres, diolch i gyllid ychwanegol gan fenter Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Gwnaethom ddewis y datblygiadau ar gyfer y gwaith hwn yn ofalus, ar sail effaith ddisgwyliedig y gwelliannau. Rydym yn falch o fod yn cymryd camau breision i wella cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd cartrefi ar draws Sir Benfro, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â’r gwaith pwysig hwn.