Cwestiynau Cyffredin

  • Hidlydd:

  • Y cap ar fudd-daliadau

    Ceir cyfyngiad ar gyfanswm y budd-daliadau y gall y bobl sydd yn eich cartref eu cael, ac mae'r budd-daliadau dan sylw'n cynnwys y canlynol:

    • Budd-dal tai.
    • Lwfans ceisio gwaith.
    • Lwfans cyflogaeth a chymorth (oni bai eich bod yn cael yr elfen gymorth).
    • Budd-dal plant.
    • Credyd treth plant.
    • Lwfans gofalwr.
    Os yw’r cyfanswm yn fwy na’r uchafswm a ganiateir, bydd eich taliadau budd-dal tai'n cael eu lleihau. Dyma uchafswm y budd-daliadau y gallwch eu cael:
    • £384.62 yr wythnos neu £20,000 y flwyddyn ar gyfer rhieni sengl.
    • £384.62 yr wythnos neu £20,000 y flwyddyn ar gyfer cyplau sydd â phlant neu nad oes ganddynt blant.
    • £257.69 yr wythnos neu £13,400 y flwyddyn ar gyfer pobl sengl nad oes ganddynt blant.
    Ni fydd yn berthnasol i chi os ydych yn cael credyd pensiwn neu gredyd treth gwaith neu os oes rhywun yn eich cartref yn hawlio lwfans byw i’r anabl, lwfans gweini neu elfen gymorth y lwfans cyflogaeth a chymorth.

  • Rwyf wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ond heb gael fy nhalu, ac mae fy rhent yn ddyledus. Beth dylwn i ei wneud?

    Gall gymryd hyd at 7 wythnos i Gredyd Cynhwysol gael ei dalu, ar ôl i chi wneud cais amdano. Yn y cyfamser, byddwch yn dal yn gyfrifol am dalu eich rhent yn unol â’ch cytundeb tenantiaeth. Dyna pam rydym yn annog ein tenantiaid i gronni ychydig o gredyd yn eu cyfrifon rhent, fel na fydd ôl-ddyledion ganddynt pan fyddant yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Caiff Credyd Cynhwysol ei dalu ar ffurf ôl-daliadau bob mis. Os oes angen unrhyw help neu gyngor arnoch, anfonwch ebost i [email protected] neu ffoniwch 01437 763688.

  • Does dim cyfrif banc gen i. Sut galla’ i agor un?

    Caiff Credyd Cynhwysol ei dalu’n syth i gyfrif banc. Gallai cyfrif banc sylfaenol fod yn addas i chi:

    • Os oes gennych statws credyd gwael neu os yw eich incwm yn isel.
    • Os nad oes arnoch angen y pethau ychwanegol y mae cyfrif cyfredol yn eu cynnig, er enghraifft cyfleuster gorddrafft.
    Bydd angen i chi brofi pwy ydych chi er mwyn gallu agor cyfrif banc – bydd y banc neu’r gymdeithas adeiladu'n dweud wrthych beth y mae angen i chi ei ddarparu.

  • Does dim cyfrifiadur gen i. Sut galla’ i wneud cais ar-lein?

    Mae gennym weithiwr cymorth digidol a fan cymorth digidol sydd â dyfeisiau ipad a chyfrifiaduron y gallwch eu defnyddio i fynd ar-lein. At hynny, gall ein cynghorwyr budd-daliadau ac arian ymweld â chi yn eich cartref a dod ag ipad gyda nhw i’ch helpu i lenwi eich ffurflen gais.

  • Pa wybodaeth y bydd arna’ i ei hangen wrth wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein?

    • Eich rhif Yswiriant Gwladol.
    • Eich cod post.
    • Eich cyfeiriad ebost.
    • Eich rhif ffôn (llinell sefydlog neu ffôn symudol).
    • Enw a chyfeiriad Grŵp ateb, a’ch rhent cymwys – gallwch ofyn i ni am y wybodaeth hon.
    • Manylion y cyfrif yr ydych am i’ch Credyd Cynhwysol gael ei dalu i mewn iddo – enw a chyfeiriad y gangen, rhif y cyfrif a’r cod didoli.
    • Os ydych yn gweithio, eich cyflog gros (cyn unrhyw ddidyniadau).
    • Manylion unrhyw gynilion neu gyfalaf.
    • Manylion eich partner os yw’n byw gyda chi.
    • Manylion unrhyw blant/perthnasau sy’n byw gyda chi, gan gynnwys eu henw, eu dyddiad geni, eu hoedran a’u hincwm.
    • Os ydych yn talu am ofal plant, manylion eich darparwr gofal plant gan gynnwys ei rif cofrestru.
    • Os oes angen help arnoch i wneud cais am Gredyd Cynhwysol, gall ein tîm mewnol o Gynghorwyr Budd-daliadau ac Arian ddarparu cyngor a chymorth i chi.

  • Sut mae ymgeisio?

    Gallwch ymgeisio am ein holl swyddi gwag, ar draws y Grŵp, ar-lein drwy ddefnyddio ein gwefan recriwtio.

  • Pa mor fuan y gallaf ddechrau ar ôl cael cynnig y swydd?

    Pan fyddwch wedi cael cynnig sydd wedi'i gadarnhau, bydd angen i chi drafod â’ch cyflogwr presennol a chytuno ar ddyddiad gadael. Pan fyddwch yn gwybod y dyddiad hwnnw, cysylltwch â ni a gallwn gytuno ar ddyddiad i chi ymuno â ni.

  • Alla’ i roi rhybudd i’m cyflogwr presennol pan fyddwch yn cynnig y swydd i mi?

    Byddem yn eich cynghori i beidio â rhoi rhybudd i'ch cyflogwr presennol nes y byddwn wedi anfon cynnig o gyflogaeth atoch sydd wedi'i gadarnhau. I ddechrau byddwn yn anfon cynnig o gyflogaeth atoch sy'n gynnig dros dro. Mae hynny'n golygu y byddem yn hoffi i chi ymuno â ni ond bod angen i ni gyflawni rhai gwiriadau/archwiliadau cyn eich bod yn gwneud hynny. Bydd y rheini'n cynnwys geirdaon boddhaol, archwiliad iechyd a'r gwiriadau canlynol efallai, yn dibynnu ar y swydd:

    • Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
    • Gwirio eich trwydded yrru ac yswiriant eich cerbyd.
    • Gwirio eich cymwysterau.
    Pan fyddwn wedi cael gwybod bod y gwiriadau/archwiliadau hyn yn foddhaol, byddwn mewn sefyllfa i anfon cynnig atoch sydd wedi'i gadarnhau.

  • A fyddaf yn clywed gennych os ydw i wedi bod yn aflwyddiannus?

    Yn ateb, byddwn bob amser yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am ganlyniad eich cais neu’ch cyfweliad. Byddem yn hoffi eich helpu i lwyddo wrth chwilio am swydd yn y dyfodol, felly cofiwch ddweud wrthym os hoffech gael adborth ynglŷn â'ch cais neu'ch cyfweliad.

  • Rwyf wedi cyflwyno fy nghais yn ddiweddar – beth fydd yn digwydd nesaf?

    Ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn cysylltu â chi drwy ebost i ddweud wrthych a ydych wedi eich dewis ai peidio ar gyfer cyfweliad. Bydd yr ebost yn nodi'r dyddiad/amser, y lleoliad a'r dogfennau y bydd angen i chi ddod â nhw gyda chi. Byddwch yn gallu trefnu amser eich cyfweliad drwy ddolen gyswllt yn ein neges ebost. Yn y cyfweliad, byddwch yn ateb cyfres o gwestiynau ac mae'n bosibl y bydd angen i chi gwblhau asesiad neu roi cyflwyniad, yn dibynnu ar y swydd yr ydych wedi ymgeisio amdani. Byddwn yn rhoi gwybod i chi yn yr hysbyseb wreiddiol a fydd asesiad yn ofynnol ai peidio ar gyfer y swydd. Yn dilyn y cyfweliad, byddwn yn cysylltu â chi eto i roi gwybod i chi a ydych wedi bod yn llwyddiannus.

  • Ydych chi’n derbyn ceisiadau hwyr?

    Er tegwch i bob ymgeisydd, ni fyddwn yn derbyn ceisiadau hwyr mewn amgylchiadau arferol. Felly, mae’n bwysig eich bod yn nodi dyddiadau cau/dyddiadau allweddol cyn eich bod yn dechrau llunio eich cais. Sicrhewch eich bod yn caniatáu digon o amser i gyflwyno eich cais, rhag ofn y byddwch yn cael unrhyw anawsterau technegol.

  • Rwyf wedi cyflwyno fy nghais ond heb glywed dim gennych – beth dylwn i ei wneud?

    Gwiriwch fod y dyddiad cau wedi pasio oherwydd ni fyddwch yn clywed dim gennym tan hynny. Os yw’r dyddiad cau wedi pasio, gwiriwch eich negeseuon ebost a’ch ebost sothach oherwydd bydd pob neges yn cael ei hanfon i'r cyfeiriad ebost a nodwyd yn eich cais. Os byddwch yn dal yn methu â dod o hyd i unrhyw beth, ffoniwch ein hadran Pobl a Chyfathrebu ar 01437 776950/01437 776952.

  • Dyw’r dyddiad/amser a nodwyd ar gyfer y cyfweliad ddim yn gyfleus i fi – beth yw fy opsiynau?

    Yn gyntaf, ffoniwch ein hadran Pobl a Chyfathrebu ar 01437 776950 neu 01437 776952 i roi gwybod i ni nad yw'r dyddiad/amser gwreiddiol yn gyfleus i chi. Mae'n bosibl y gallwn aildrefnu eich cyfweliad, ond efallai na fydd modd i ni wneud hynny bob tro.

  • Beth fydd yn digwydd os na allaf gael gafael ar dystysgrif fy nghymhwyster?

    Bydd angen i chi gysylltu â’ch bwrdd arholi, eich ysgol neu'ch prifysgol ac ati er mwyn cael tystysgrifau newydd, a chi fydd yn gorfod talu amdanynt.

  • Alla’ i ddim cael gafael ar fy nogfennau i gyd. Alla’ i ddod i’r cyfweliad, er hynny?

    Peidiwch â phoeni; gallwch ddod i’r cyfweliad heb eich dogfennau. Fodd bynnag, os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd angen i ni weld yr holl ddogfennau gwreiddiol y gofynnwyd amdanynt, cyn y gallwn gadarnhau cynnig o gyflogaeth i chi.

  • Ydych chi’n derbyn CV?

    Yn rhan o'n proses recriwtio, rydym yn gofyn i bob ymgeisydd ateb cyfres o gwestiynau er mwyn sicrhau eu bod yn darparu’r holl wybodaeth y mae arnom ei hangen. Os bydd arnom angen CV yn rhan o'ch cais, byddwn yn nodi hynny yn y broses ymgeisio.

  • Rwyf mewn credyd, felly alla’ i ofyn am ad-daliad?

    Gallwch – y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw llenwi'r  Ffurflen Gofyn am Ad-daliad ac fe broseswn ni eich cais cyn gynted ag y byddwn wedi cael eich ffurflen.

  • Beth os wyf yn ei chael yn anodd talu fy rhent a bod gen i ôl-ddyledion rhent?

    Cysylltwch â’ch Cydlynydd Tai yn [email protected] neu ffoniwch ni ar 0800 854568. Y peth pwysig yw eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn gynted ag sy'n bosibl er mwyn i ni allu cynnig help i'ch rhoi'n ôl ar ben ffordd a chynnig cyngor i chi ynghylch arian a budd-daliadau.

  • Pam mae angen i fi dalu tâl gwasanaeth ar ben fy rhent?

    Pan fyddwn yn darparu gwasanaethau ychwanegol i rai o’n tenantiaid, byddant yn talu am y gwasanaethau hynny drwy dâl gwasanaeth. Dyma rai enghreifftiau:

    • Cynnal a chadw tir.
    • Glanhau ardaloedd cyffredin.
    • Goleuo ardaloedd cyffredin.
    • Rhoi gwasanaeth i systemau mynediad llafar.
    • Cynnal a chadw systemau larwm tân.
    Caiff manylion eich taliadau gwasanaeth eu hanfon atoch bob gwanwyn.

  • Pryd mae fy rhent yn ddyledus?

    Mae’ch rhent a’ch tâl gwasanaeth, os yw'n berthnasol, yn daladwy bob wythnos ymlaen llaw ac yn ddyledus ar ddydd Llun.

  • Sut mae gwneud cais?

    I gael yswiriant ar unwaith, ffoniwch My Home Contents Insurance ar 0345 450 7288. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.thistlemyhome.co.uk

  • Faint mae’n ei gostio?

    Bydd y premiymau'n dibynnu ar y swm a gaiff ei yswirio, eich oedran a’ch cod post.

  • Ydych chi wedi trefnu yswiriant eto ar gyfer cynnwys eich cartref?

    Mae ateb yn yswirio’r adeilad yr ydych yn byw ynddo ond nid yw'n yswirio cynnwys eich cartref. Yswiriant Cynnwys Cartref Pam mae ei angen arnaf? Os ydych yn gwsmer sy’n rhentu, mae’n bosibl na fyddwn yn yswirio cynnwys eich cartref yn rhan o’r contract meddiannaeth. Mae’n syniad da ystyried beth y byddai polisi yswiriant cynnwys cartref yn ei yswirio, er mwyn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a oes angen yswiriant o’r fath arnoch. Bwriad yswiriant cynnwys yw helpu i ddiogelu eich eiddo. Waeth pa mor ofalus ydych chi, mae risg bob amser y gallai eich eiddo gael ei dorri, ei ddifrodi neu’i ddwyn. I’ch helpu i benderfynu a yw yswiriant cynnwys cartref yn briodol i chi, mae ateb wedi ymuno â Thistle Tenant Risks a Great Lakes Insurance UK Ltd sy’n darparu’r Cynllun Yswiriant Cynnwys Fy Nghartref, sef polisi yswiriant cynnwys ar gyfer tenantiaid sy’n byw mewn tai cymdeithasol. Gall y Cynllun Yswiriant Cynnwys Fy Nghartref gynnig yswiriant i chi ar gyfer cynnwys eich cartref, gan gynnwys yswiriant ar gyfer eitemau megis dodrefn, carpedi, llenni, dillad, dillad gwely, eitemau trydanol, gemwaith, lluniau ac ornaments. Sut mae cael rhagor o wybodaeth?

    • Gofynnwch i'ch swyddog tai lleol am becyn gwneud cais.
    • Ffoniwch Thistle Tenant Risks ar 0345 450 7288.
    • Fel arall, ewch i www.thistlemyhome-cymru.co.uk i gael rhagor o wybodaeth neu ofyn i rywun eich ffonio'n ôl.
    Mae cyfyngiadau ac eithriadau’n berthnasol. Mae copi o eiriad y polisi ar gael o ofyn amdano. Y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol a Cartrefi Cymunedol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Thistle Insurance Services Ltd. Caiff Thistle Insurance Services Limited ei awdurdodi a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Cyfeirnod y cwmni: 310419. Cofrestrwyd yn Lloegr dan rif 00338645. Swyddfa gofrestredig: Rossington’s Business Park, West Carr Road, Retford, Nottinghamshire, DN22 7SW. Mae Thistle Insurance Services Ltd yn rhan o’r PIB Group. Mae ein Polisi Preifatrwydd at ddibenion Diogelu Data i’w weld ar-lein yma: https://www.thistleinsurance.co.uk/Privacy-Policy Mae’n bwysig diogelu eich eiddo, ac mae eich Landlord yn awgrymu eich bod yn chwilio am ddarparwyr a gaiff eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae Thistle Insurance Services yn gwmni sy’n arbenigo mewn yswiriant cynnwys ar gyfer tai cymdeithasol, ond mae darparwyr eraill ar gael hefyd a gellir dod o hyd iddynt ar wefannau cymharu tebyg i Money Supermarket neu Compare the Market.

  • Alla’ i brynu fy nghartref?

    Gall rhai o denantiaid ateb brynu eu cartrefi drwy’r cynlluniau Hawl i Gaffael neu Hawl i Brynu. Fodd bynnag, efallai na fydd rhai tenantiaid yn gymwys. I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun Hawl i Gaffael, dylai eich cartref fodloni'r amodau canlynol:

    • Cafodd ei adeiladu ar ôl 1 Gorffennaf 1997.
    • Nid yw mewn ardal wledig yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru.
    • Nid yw yn ardaloedd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
    • Ni chafodd ei adeiladu’n benodol ar gyfer pobl hŷn neu bobl anabl.
    Nodwch fod Llywodraeth Cymru bellach wedi cael Cydsyniad Brenhinol i ddiddymu’r Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael ledled Cymru. Darllenwch y Ddogfen Arweiniad ynghylch sut y gallai hynny effeithio arnoch chi.  

  • Hoffwn i ychwanegu rhywun at y denantiaeth neu dynnu rhywun oddi arni. Sut mae gwneud hynny?

    Os ydych yn gyd-denant, bydd arnom angen caniatâd y ddau denant i’ch tynnu oddi ar y denantiaeth. Gellir rhoi'r caniatâd hwnnw drwy anfon ebost i [email protected] – bydd angen hefyd bod eich cyfrif rhent yn glir cyn y gallwn wneud unrhyw newidiadau. I ofyn am gael tynnu rhywun oddi ar y denantiaeth, defnyddiwch ein  Ffurflen Ar-lein. CadwCadwCadwCadw

  • Rwyf am derfynu fy nhenantiaeth. Sut dylwn i roi gwybod i chi?

    Mae arnom angen 28 diwrnod o rybudd gan bob tenant os byddant am adael eu cartref. Gallwch roi rhybudd i ni drwy lenwi ein Ffurflen Diwedd Tenantiaeth. I gael help neu ragor o wybodaeth, anfonwch ebost i [email protected]   

  • Alla’ i wneud gwelliannau i fy nghartref?

    Gwelliant yw unrhyw waith a wneir neu unrhyw beth a osodir sydd er lles y tenant. Gallai gynnwys gosod rhywbeth newydd yn lle rhywbeth sydd yno'n barod, ei uwchraddio neu ychwanegu ato. Gallai gynnwys unrhyw osodiadau neu ffitiadau parhaol neu dros dro sydd ynghlwm wrth y tir neu’r adeilad yr ydych yn byw ynddo. Bydd arnoch angen caniatâd gan ateb i wneud unrhyw welliannau. I gyflwyno cais, llenwch ein  Ffurflen Gofyn am Ganiatâd i Wneud Gwaith/Gwelliannau.

  • Pryd bydd y gwaith atgyweirio rwyf wedi gofyn amdano’n cael ei wneud?

    Os yw’r angen am waith atgyweirio'n argyfwng, byddwn yn ymdrin ag ef o fewn 24 awr. Byddwn yn ceisio bod gyda chi cyn gynted ag sy'n bosibl, yn dibynnu ar ddifrifoldeb yr argyfwng. Os nad yw’r gwaith atgyweirio'n argyfwng, byddwn yn cytuno â chi ar apwyntiad. Byddwn fel rheol yn rhoi dewis i chi rhwng apwyntiad yn y bore, apwyntiad yn y prynhawn neu apwyntiad nad yw'n cyd-daro â dechrau neu ddiwedd y diwrnod ysgol, ar ddiwrnod sy’n gyfleus i chi. Os bydd angen i ni anfon contractwr i'ch cartref, bydd y contractwr yn cysylltu â chi'n uniongyrchol i drefnu apwyntiad.

  • Beth os oes angen i fi aildrefnu fy apwyntiad?

    Dim problem! Gallwch anfon ebost i [email protected] neu ein ffonio ar 0800 854568.

  • Beth os oes angen atgyweirio rhywbeth nad yw ateb yn gyfrifol amdano? Allwch chi fy helpu o hyd?

    Cysylltwch â ni drwy anfon ebost i [email protected] a gallwn roi cyngor priodol i chi'n dibynnu ar y gwaith.

  • Mae angen addasiad arna’ i – beth yw’r broses?

    I gael mân addasiadau megis canllawiau cydio, sedd yn y gawod neu dapiau lifer, llenwch y ffurflen Minor adaptations sydd ar-lein. Os oes angen addasiad mwy arnoch, cysylltwch â Chyngor Sir Penfro ar 01437 764551 a fydd yn trefnu amser i therapydd galwedigaethol ddod i gwrdd â chi ac asesu’ch anghenion.

     

  • Pryd bydd fy apwyntiad nesaf ar gyfer rhoi gwasanaeth i’r offer nwy?

    Byddwn yn trefnu archwiliad diogelwch nwy, a byddwn yn cysylltu â chi ymlaen llaw er mwyn gwneud apwyntiad i ymweld â chi yn eich cartref. Ar ôl trefnu'r apwyntiad, bydd yn rhaid i chi adael i ni ddod i mewn i’ch cartref i gwblhau gwaith cynnal a chadw neu gyflawni archwiliadau diogelwch ar offer.

  • Beth os oes angen i fi aildrefnu fy apwyntiad?

    Os na allwch gadw'r apwyntiad a drefnwyd ar eich cyfer, rhaid i chi gysylltu â ni drwy anfon ebost i [email protected] neu ein ffonio ar 0800 854568. Fel arfer, mae angen 24 awr o rybudd arnom.

  • Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli apwyntiad?

    Byddwn yn gadael cerdyn galw, a bydd angen i chi gysylltu â ni i aildrefnu eich apwyntiad. Mae'n bosibl y byddwn yn codi tâl arnoch am yr apwyntiad a gollwyd.

  • Beth am fy synhwyrydd carbon monocsid?

    Mae ateb wedi darparu synwyryddion carbon monocsid ar gyfer ei gwsmeriaid, a bydd yn eu profi ac yn gosod rhai newydd yn eu lle yn rhan o'r archwiliad diogelwch blynyddol. Rhowch wybod i ni os yw eich synhwyrydd ar goll, wedi’i ddifrodi neu'n ddiffygiol, neu os nad ydych yn siŵr, ac fe wnawn ni osod un newydd yn rhad ac am ddim.

  • Rwy’n byw yn un o gartrefi ateb ac rwyf am adael. Beth mae angen i mi ei wneud?

    Mae angen i chi roi gwybod i ni drwy lenwi ein  Ffurflen Diwedd Tenantiaeth 28 diwrnod cyn eich dyddiad ymadael. Os byddwch yn gadael eich cartref yn lân ac yn wag, gallech fod yn gymwys ar gyfer ein cynllun 'glân a gwag'. Os byddwch yn gadael eich cartref yn lân ac yn wag a bod gennych gyfrif rhent heb ddyledion, byddwn yn rhoi taleb Love 2 Shop gwerth £50 i chi. Bydd hynny'n amodol ar archwiliad gan swyddog ardal.

  • Rwyf am brynu fy nghartref fy hun ond rwy’n methu â fforddio gwneud hynny. Allwch chi fy helpu?

    Gallai cartref dan gynllun rhanberchnogaeth fod yn addas i chi! Cynllun prynu'n rhannol/rhentu'n rhannol yw rhanberchnogaeth. Mae’n ei gwneud yn bosibl i bobl brynu cartref na fyddent yn gallu ei fforddio fel arall. Bwriad y cynllun yw galluogi pobl i gymryd camau tuag at ddringo’r ysgol eiddo a thuag at fod yn berchen yn gyfan gwbl ar eu cartref eu hunain, a'u galluogi i brynu cyfrannau pellach yn eu cartref (cynyddu cyfran eu perchentyaeth) pan fyddant yn gallu fforddio gwneud hynny. Cliciwch yma i gael gwybod mwy!

  • Ble mae gan ateb gartrefi?

    Mae gennym amrywiaeth o gartrefi ledled y gorllewin. Cliciwch yma i'w gweld!

  • Rwy’n anabl ac mae angen cartref arnaf sydd wedi’i addasu. Allwch chi fy helpu?

    Gallwn! Mae gennym tua 30 o fyngalos wedi'u haddasu, sydd wedi’u hadeiladu yn benodol ar gyfer pobl ag amrywiaeth o anableddau. Llenwch ein  Ffurflen Gais i gofrestru ar gyfer ein cofrestr tai hygyrch. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]

  • Beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol?

    Ymddygiad gwrthgymdeithasol yw ymddygiad sy’n debygol o achosi anfodlonrwydd neu niwsans i unigolyn arall, sy’n cynnwys defnyddio eich cartref at ddibenion anghyfreithlon. Gall enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol gynnwys:

    • ymddygiad swnllyd a/neu ddifrïol
    • fandaliaeth
    • graffiti
    • ymddygiad sy’n codi ofn ar rywun
    • bod yn feddw’n gyhoeddus
    • gadael sbwriel ar hyd y lle
    • tipio sbwriel yn anghyfreithlon
    • defnyddio cyffuriau anghyfreithlon
    • cŵn sy’n cyfarth yn ormodol.
    Mae’n bosibl na fydd rhai mathau o ymddygiad, er eu bod efallai’n achosi niwsans i unigolion, yn cael eu hystyried yn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gallai’r mathau hynny o ymddygiad gynnwys, er enghraifft:
    • parti neu farbeciw a gynhelir unwaith yn unig
    • sŵn neu aflonyddwch sy’n digwydd yn anaml neu’n achlysurol
    • plant yn chwarae
    • ci neu gŵn sy’n cyfarth yn achlysurol
    • peiriannau domestig sy’n cadw gormod o sŵn (e.e. peiriant golchi dillad, hwfer)
    • mân atgyweiriadau a wneir i gerbydau
    • achosion o hel clecs, gan gynnwys negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol
    • anghydfodau sydd wedi gwaethygu.

  • Sut mae sôn am broblem?

    Os ydych yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol neu niwsans a achosir gan gymdogion, cysylltwch â ni i gael gwybod beth y gallwn ni ei wneud a pha gamau y gallwch chi eu cymryd i’w ddatrys. Llenwch ein Report anti-social behaviour er mwyn cwyno a chyflwyno adroddiad heddiw.

  • Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn sôn am broblem?

    Pan fyddwch yn sôn wrthym am broblem sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu niwsans a achosir gan gymdogion byddwn yn cynnig cyngor i chi, yn cymryd gwybodaeth gennych ac yn dweud wrthych pa gamau y gallwn eu cymryd i helpu i ddatrys y broblem.   I ddechrau, byddem yn argymell eich bod yn mynd ati eich hun i geisio datrys y broblem gyda’ch cymdogion, os yw’n ddiogel i chi wneud hynny.    Byddwn yn mynd i’r afael â digwyddiadau mwy difrifol sy’n ymwneud ag ymddygiad a gaiff ei wahardd, megis ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans a achosir gan gymdogion, pan fydd gennym dystiolaeth a bod angen gweithredu.   Gallai tystiolaeth gynnwys recordiadau’r ap sŵn, cofnodion ysgrifenedig, ffotograffau neu fideos.   Ni fyddwn yn mynd i’r afael â mân ddigwyddiadau neu bethau sydd wedi digwydd unwaith yn unig, y mae’n hawdd eu datrys rhwng cymdogion.   Nodwch y gallai gymryd peth amser i gasglu tystiolaeth a gweithredu, ond byddwn bob amser yn cyfathrebu’n rheolaidd â chi drwy gydol y broses.    Ni fyddwn yn gallu datrys rhai problemau ar ein pen ein hunain. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu, yr awdurdod lleol ac asiantaethau eraill i ymdrin ag achosion mwy difrifol o niwsans ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, er mwyn gwneud ein cymunedau’n fannau diogel i fyw ynddynt.

  • Sut mae’r ap niwsans sŵn yn gweithio?

    Mae’r Ap Sŵn yn ffordd gyflym a hawdd o recordio sŵn sy’n achosi anfodlonrwydd a niwsans. Bydd angen ffôn ‘clyfar’ arnoch i ddefnyddio’r ap hwn, ac os oes gennych fand eang ni fyddwch yn defnyddio lwfans data eich ffôn symudol. Cyn i chi recordio unrhyw beth ar yr ap, rhaid i chi ffonio Canolfan Gyswllt Cyngor Sir Penfro ar 01437 764551 lle bydd rhywun yn nodi eich manylion ac yn cyfeirio eich achos at y Tîm Iechyd Cyhoeddus. Nodwch na fydd modd paru eich recordiadau â’ch manylion os na fyddwch yn gwneud hynny.  Ar ôl i chi lawrlwytho’r ap a rhoi gwybod i’r Cyngor, gallwch fynd ati ar unwaith i ddechrau recordio’r sŵn sy’n achosi’r broblem. Caiff y recordiadau eu lanlwytho’n syth i wefan ddiogel. Yna, byddant yn cael eu hasesu a bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch pa gamau gweithredu sy’n angenrheidiol. Gallwch wneud cynifer o recordiadau ag sydd angen – mae pob recordiad yn para hyd at 30 eiliad.

  • Beth os na fyddwch yn datrys y broblem?

    Os na fyddwn yn llwyddo i ddatrys eich cwyn, gallwch gwyno wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ar bob corff llywodraeth, a gall ymchwilio i’ch cwyn os ydych yn credu eich bod chi'n bersonol neu’r unigolyn rydych yn cwyno ar ei ran:

    • Wedi cael eich trin yn annheg neu wedi cael gwasanaeth gwael drwy ryw fethiant ar ran y corff sy’n ei ddarparu.
    • Wedi cael eich rhoi dan anfantais yn bersonol oherwydd methiant gwasanaeth neu wedi cael eich trin yn annheg.
    Bydd yr Ombwdsmon yn disgwyl i chi ddod â’ch pryderon i’n sylw ni’n gyntaf a rhoi cyfle i ni unioni’r cam. Gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon: Dros y ffôn: 0845 6010987 Drwy ebost: [email protected] Drwy'r wefan: www.ombwdsmon.cymru Yn ysgrifenedig: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ.

  • Faint o amser y byddwch yn ei gymryd i ymdrin â fy nghwyn?

    Byddwn yn ceisio datrys pryderon cyn gynted ag sy'n bosibl, a byddwn yn disgwyl ymdrin â’r mwyafrif llethol ohonynt cyn pen 28 diwrnod. Os yw eich cwyn yn fwy cymhleth, byddwn:

    • Yn rhoi gwybod i chi o fewn yr amser hwnnw pam rydym yn credu y gallai gymryd mwy o amser i ni ymchwilio i'ch cwyn.
    • Yn dweud wrthych faint o amser rydym yn disgwyl i'r gwaith ei gymryd.
    • Yn rhoi gwybod i chi ble rydym arni gyda'r ymchwiliad.
    • Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi'n rheolaidd, a fydd yn cynnwys dweud wrthych a allai unrhyw ddatblygiadau newid ein hamcangyfrif gwreiddiol.

  • Oes hawl gen i gael anifail anwes?

    Rhaid i bob tenant sydd am gadw anifail anwes ofyn i ateb am ganiatâd. Mae’r cyfyngiadau canlynol yn berthnasol: (a) Ni chaniateir ceffylau na da byw mewn unrhyw eiddo. (b) Ni chaniateir cŵn mewn fflatiau. (c) Ni chaniateir mwy na dau gi mewn unrhyw eiddo. (ch) Ni chaniateir cŵn a gaiff eu hystyried yn beryglus dan y Ddeddf Cŵn Peryglus. I gyflwyno cais, llenwch ein  Ffurflen Caniatâd i Fod yn Berchen ar Anifail Anwes.

  • Sut byddwch yn ymdrin â fy nghwyn?

    Welsh coming soon. We apologise for any inconvenience caused. Thank you.

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →