Pan fyddwch yn dod yn denant i ateb, byddwch yn llofnodi cytundeb tenantiaeth a fydd yn egluro eich cyfrifoldebau chi fel tenant a’n cyfrifoldebau ni fel eich landlord. Cymerwch amser i ddarllen y cytundeb yn ofalus!
Mae eich tenantiaeth yn gontract rhyngoch chi ac ateb, sy’n egluro ein rhwymedigaethau i’n gilydd pan fyddwn ni’n gosod eiddo i chi. Byddwn fel rheol yn defnyddio Cytundeb Tenantiaeth Sicr. Bydd y denantiaeth yn egluro nifer o bethau megis y canlynol:
Rhent a thaliadau gwasanaeth – bydd yn nodi faint o rent a pha daliadau eraill y byddwch yn eu talu, a pha mor aml y bydd y taliadau hynny’n cael eu hadolygu.
Cynnal a chadw – bydd yn nodi pa waith cynnal a chadw y byddwch chi’n gyfrifol amdano a pha waith y bydd ateb yn ei gyflawni, e.e. yn gyffredinol bydd angen i chi newid bylbiau golau a bydd yn rhaid i ateb atgyweirio unrhyw switshys diffygiol.
Ymdrin â phroblemau – os bydd problemau’n codi o ran sut rydych yn defnyddio eich cartref, bydd y denantiaeth yn egluro sut y dylech chi ac ateb ddatrys y problemau hynny.
Er mwyn eich helpu i ddeall gofynion y denantiaeth, rydym wrthi’n datblygu Llawlyfr i Gwsmeriaid sy’n trafod yn fanylach sut mae cael y gorau o’ch cartref gan ateb.
For more in depth information, please visit the Welsh Government Occupation Contract Guidance page.
Fodd bynnag, dyma rai cwestiynau cyffredin a allai fod yn ddefnyddiol i chi.