Cwestiynau Cyffredin am Recriwtio – Cael Cyfweliad yn ateb
Pa mor fuan ar ôl y cyfweliad y dylwn i ddisgwyl clywed rhywbeth?
Fel rheol, drwy ebost cyn pen 3 diwrnod gwaith ar ôl y cyfweliad. Gwiriwch eich ffolderi ebost, gan gynnwys y ffolder ar gyfer sothach.
Beth y mae’r broses recriwtio’n ei olygu?
Byddwch bob amser yn cael cyfweliad, sgwrs dros baned ag aelodau o’r tîm ac, yn ôl pob tebyg, ambell asesiad i’n helpu i wirio eich sgiliau a’ch profiad.
Sut y gallaf baratoi ar gyfer fy nghyfweliad?
Adolygu eich cais a’ch CV
Ymchwilio gymaint ag y gallwch i Grŵp ateb
Ymgyfarwyddo â’r proffil rôl
Defnyddio’r dull STAR i baratoi ar gyfer y cyfweliad
Cadarnhau lleoliad y cyfweliad a chynllunio eich taith yn briodol, gan geisio cyrraedd o leiaf 5 – 10 munud yn gynnar
Paratoi cwestiynau y byddwch efallai am eu gofyn
Ymarfer ateb cwestiynau cyffredin a ofynnir mewn cyfweliadau
Sicrhau eich bod yn dod ag unrhyw ddogfennau angenrheidiol y gofynnwyd efallai i chi ddod â nhw gyda chi.
Cael cyfweliad – ambell gyngor i sicrhau llwyddiant
Pwy fydd ar y panel cyfweld?
Byddwch fel rheol yn cael eich cyfweld gan banel o 2 i 3 o unigolion a fydd yn cynnwys y rheolwr cyflogi, sef eich rheolwr llinell yn ôl pob tebyg, cydweithiwr sy’n gysylltiedig â’r swydd, ac weithiau cynrychiolydd o’r Tîm Pobl.
Beth yw’r Sgwrs dros Baned?
Bydd 3 unigolyn fel rheol yn rhan o’r Sgwrs dros Baned, a byddant yn cynnwys cydweithwyr y mae ganddynt gysylltiad uniongyrchol â’r swydd ac weithiau ein cwsmeriaid. Mae’n gyfle mewn amgylchedd llai ffurfiol i’r ymgeiswyr drafod eu sgiliau a’u profiadau a dysgu mwy ar yr un pryd am y swydd a’r hyn a ddisgwylir ganddi.
Pam yr ydych yn defnyddio asesiadau yn ystod eich proses recriwtio, a beth y maent yn ei olygu?
Caiff asesiadau eu defnyddio i werthuso ymgeiswyr yn wrthrychol ac i benderfynu a ydynt yn addas ar gyfer swyddi penodol. Yn dibynnu ar y swydd, gall asesiadau gynnwys tasgau megis paratoi a rhoi cyflwyniad, cwblhau tasgau ysgrifenedig megis llunio llythyr, neu wneud asesiadau yn Excel.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw’r asesiadau penodol pan fyddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad.
Faint o gyfweliadau y bydd angen i fi eu mynychu?
Fel rheol, gall ymgeiswyr ddisgwyl gorfod mynychu 1 neu 2 gyfweliad, yn dibynnu ar y swydd a’i lefel.
Beth os na fyddaf yn gallu mynychu’r cyfweliad ar y dyddiad sydd wedi’i drefnu?
Rydym yn ceisio rhoi digon o rybudd i ymgeiswyr am ddyddiadau cyfweliadau (byddwn bob amser yn ceisio nodi’r dyddiad ar y pecyn recriwtio). Os na fyddwch yn gallu mynychu’r cyfweliad, rydym yn argymell eich bod yn anfon cais ac yn rhoi gwybod i ni ymlaen llaw. Byddwn yn ceisio ymateb yn ffafriol i geisiadau i aildrefnu dyddiad, ond mae’n bosibl na fyddwn yn gallu gwneud hynny bob amser.
A allaf ofyn am adborth?
Gallwch. Atebwch y neges ebost a gawsoch i ddweud eich bod yn aflwyddiannus neu anfonwch ebost i [email protected] i ofyn am adborth.