Yng Nghymru mae pob landlord cymdeithasol, gan gynnwys cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol, yn cynnal arolwg wedi’i safoni o fodlonrwydd tenantiaid, a elwir yn arolwg STAR. Caiff y canlyniadau eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, sy’n ei gwneud yn bosibl i denantiaid graffu ar berfformiad gwahanol landlordiaid a’i gymharu.
Gwnaethom gynnal ein harolwg ni o fodlonrwydd tenantiaid rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Chwefror 2024. Cafodd yr arolwg ei anfon drwy ebost at yr holl gwsmeriaid yr oedd eu manylion cyswllt ar gael, a chafodd ei hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol ac oddi mewn i’n timau er mwyn annog pobl i gymryd rhan. Cafwyd 770 o ymatebion i’r arolwg, a oedd yn cynrychioli 24% o’n cwsmeriaid.
Cyhoeddi’r canlyniadau
Erbyn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi “cynghrair” sy’n dangos canlyniadau pob un o’r 46 o landlordiaid cymdeithasol. Gallwch weld yr adroddiad llawn yma neu lawrlwytho copi o’r canlyniadau yma.
Meddai Mark Lewis, ein Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid, wrth sôn am y canlyniadau:
“O’n cymharu â’r sector yn ei gyfanrwydd, mae rhai o’n canlyniadau yn wirioneddol dda. Rydym yn y 7fed safle allan o 46 o landlordiaid am ansawdd cyffredinol ein cartrefi, ac yn yr 2il safle allan o 46 o landlordiaid am y modd yr ydym yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fodd bynnag, mae gennym waith i’w wneud er mwyn gwella lefelau bodlonrwydd cyffredinol mewn meysydd eraill, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â’n cwsmeriaid ac i wrando arnynt ynglŷn â sut y gallwn wella ein gwasanaethau.”
Cadwch eich llygaid ar agor am ddiweddariadau, a chofiwch fod croeso i chi rannu eich barn â ni er mwyn ein helpu i ddarparu gwasanaethau gwell fyth.