Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod gwaith adeiladu wedi dechrau ar 11 o gartrefi newydd, fforddiadwy i’w rhentu, ym mhentref hardd Jameston, Dinbych-y-pysgod. Mae’r cartrefi’n cael eu codi ar ran ateb gan Sterling UK Construction Ltd, a disgwylir y byddant yn barod ar gyfer cofrestr tai’r ardal leol ymhen tua 12 mis.
Mae Sterling Construction wedi cael contract gennym o’r blaen i godi 23 o gartrefi newydd yn ein datblygiad yn Station Road, Maenorbŷr, a fydd yn cael eu gosod cyn bo hir, ac rydym yn falch iawn o allu parhau â’r berthynas waith lwyddiannus hon yn ein datblygiad diweddaraf yn Jameston. Bydd gan y cartrefi newydd hyn Dystysgrifau Perfformiad Ynni sy’n dangos ‘A’ fel sgôr, a bydd ganddynt systemau gwresogi nad ydynt yn defnyddio tanwydd ffosil, paneli solar ffotofoltäig, a phympiau gwres o’r aer. Byddant felly’n cyd-fynd â’n hymrwymiad i leihau’r carbon y mae ein cartrefi’n ei gynhyrchu – sero net ateb.
Bydd y datblygiad yn cynnwys 4 fflat ag un ystafell wely, 2 fyngalo â dwy ystafell wely, 4 tŷ â dwy ystafell wely ac 1 tŷ â phedair ystafell wely.
Buom yn siarad â Matt Reynolds, y Rheolwr Safle ar ran Sterling Construction Ltd, a fu’n rhannu ei frwdfrydedd â ni: “Mae’n braf cael gweithio gydag ateb unwaith yn rhagor. Mae ateb yn gleient gwerthfawr i ni ac mae ymwneud â nhw wedi bod yn brofiad gwych. Mae ein DNA ni a’u DNA nhw yn cyd-fynd â’i gilydd, ac mae gofynion megis cynnwys cyfleoedd i brentisiaid yn y gweithlu’n adlewyrchu gwerthoedd a chredoau sy’n debyg i’n rhai ni.”
Meddai Dave Coleman, sy’n Uwch-syrfëwr Meintiau, wedyn: “Mae Matt a fi’n bobl leol, felly mae’n braf cael adeiladu tai cymdeithasol newydd, fforddiadwy i’w rhentu, ar gyfer pobl Sir Benfro. Mae gweithio gydag ateb bob amser yn bleser, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ar ragor o brosiectau yn y dyfodol.”
Yn rhan o fuddion cymunedol Sterling, mae’r cwmni yn cynnig cyfleoedd i brentisiaid ar y safle. Buom yn siarad â Ryan Evans, Prentis Gosod Brics, a Joshua Davies, Prentis Rheoli Safle. Meddai Ryan: “Roeddwn yn arfer gwylio Brickies ar BBC3 ac wedi bod yn dilyn cwrs gosod brics yn y coleg, felly roeddwn am aros yn y maes hwnnw. Mae hwn yn gyfle grêt i fi ddysgu ac ennill arian hefyd.”
O’r chwith i’r dde: Ryan Evans – Sterling, Kevin Winstone – Arolygwr Adeiladu ac Ansawdd ateb, Jonathan Cole – Rheolwr Tir ateb, a Joshua Davies – Sterling.
Esboniodd Josh ei reswm e’ dros fynd ar drywydd Prentisiaeth Rheoli Safle: “Roeddwn yn arfer bod yn yrrwr bysiau ond roeddwn am gael gyrfa a oedd yn golygu gwaith mwy ymarferol yn yr awyr agored. Yn fy swydd gyntaf gyda Sterling roeddwn yn gweithio ar baratoi sylfeini ar gyfer cartrefi, ac rwyf wedi bod yn dringo’r ysgol ers hynny i fod yn brentis rheoli safle. Rwyf wrth fy modd o gael y cyfle hwn, ac roeddwn yn teimlo ei fod wedi cyrraedd ar yr adeg gywir.”
Rhai aelodau o’r tîm yn gweithio’n galed i godi’r cartrefi newydd.
Mae ateb yn falch o fod yn datblygu’r 11 o gartrefi newydd hyn ac o fod yn parhau â’n cenhadaeth, sef cyrraedd sefyllfa sero net a helpu i feithrin pobl dalentog leol. Cadwch eich llygaid yn agored am ragor o ddiweddariadau wrth i’r prosiect cyffrous hwn fynd yn ei flaen.