Diogelwch dŵr

Draeniau sydd wedi blocio

Byddwch fel arfer yn gwybod os yw eich draen wedi blocio, oherwydd bydd eich gwastraff yn pallu mynd i ffwrdd pan fyddwch yn fflysio’r toiled neu bydd gylis y tu allan yn gorlifo. At hynny, mae’n debyg y bydd drewdod o amgylch draeniau a siambrau archwilio. Os nad yw’r broblem yn effeithio ar unrhyw un o’ch cymdogion, mae’n debygol iawn mai eich draen chi sydd wedi blocio. Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy am ddiogelwch dŵr:

  • Gwnewch yn siŵr mai dim ond dŵr gwastraff, papur toiled a gwastraff dynol sy’n mynd i lawr eich draeniau ac i mewn i’r garthffos. Lapiwch gynnyrch glanweithiol, cewynnau, cadachau gwlyb ac ati a rhowch nhw yn y bin.
  • Ar ôl coginio gadewch i fraster, olew a saim oeri – yna gallwch ei roi yn y bin neu’i gymysgu â hadau a chnau i wneud bwyd adar.
  • Dylech fynd â moddion, tabledi, chwistrellau a nodwyddau i’ch fferyllfa, eich ysbyty lleol neu’ch awdurdod iechyd er mwyn eu gwaredu’n ddiogel.
  • Os na allwch glirio’r draen sydd wedi blocio yn eich cartref, mae croeso i chi ein ffonio a byddwn yn trefnu bod y draen yn cael ei glirio.
  • Mae draeniau sydd wedi blocio’n costio tipyn o arian i ateb. Os byddwn yn darganfod mai camddefnydd yw achos y broblem, byddwn yn codi tâl arnoch am gost y gwaith clirio.

Stop cyn creu bloc Dŵr Cymru: 

Eich stopfalf dŵr

Mae angen i chi sicrhau eich bod yn gwybod ble mae eich stopfalf, fel eich bod yn gallu atal y cyflenwad dŵr os bydd dŵr yn gollwng yn eich cartref. Gallwch ofyn i aelod o’n staff neu’ch cymydog.

Clefyd y llengfilwyr

Ffurf ar niwmonia, sy’n gallu bod yn farwol, yw clefyd y llengfilwyr. Caiff ei achosi pan gaiff dafnau bach o ddŵr sydd wedi’i heintio ac sy’n cynnwys Legionella eu hanadlu i mewn i’r corff. Mae gan ateb ddyletswydd gofal i sicrhau iechyd a diogelwch ei denantiaid drwy sicrhau bod eiddo’n ddiogel ac yn rhydd rhag peryglon i iechyd, ac rydym yn cydweithio’n agos â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a diogelwch i gynnal asesiadau risg a phrofion ym mhob eiddo priodol.

Mae’r risg i eiddo domestig cyffredin yn isel, ond dyma rai cynghorion y dylech eu dilyn er mwyn cadw’n ddiogel:

  • Gadewch i’r dŵr redeg drwy dapiau a chawodydd am 10 munud, os na fyddant wedi cael eu defnyddio am gyfnod (e.e. os ydych wedi bod ar eich gwyliau neu os nad ydych wedi bod yn defnyddio rhai ystafelloedd).
  • Fflysiwch doiledau â’r caead ar gau, os na fyddant wedi cael eu defnyddio am gyfnod.
  • Cadwch dapiau a phennau cawodydd yn lân ac yn rhydd rhag calch, llwydni neu algâu sydd wedi cronni.
  • Draeniwch bibellau dŵr yn yr ardd ar ôl i chi eu defnyddio. Peidiwch â’u gadael yn yr haul a fflysiwch nhw cyn llenwi pyllau padlo bach ac ati.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am glefyd y llengfilwyr, cysylltwch â ni neu ewch i wefan NHS Choices.

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →