Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd ateb ddiwrnod cymunedol o hwyl yn Plas Peregrine, Pen Puffin a Stryd Shearwater yn Steynton, Sir Benfro, a oedd yn ddiwrnod diddorol a bywiog.
Llwyddodd y digwyddiad hwn a oedd yn rhan o’r fenter gymunedol “Ymgysylltu i Wella” i ddenu dros 60 o gwsmeriaid ateb, yn ogystal ag amryw aelodau o dîm ateb a sefydliadau sy’n bartneriaid iddo.
Roedd y diwrnod o hwyl yn gyfle gwych i gwsmeriaid ryngweithio’n uniongyrchol â thimau ateb, ac yn gyfle iddynt fynd i’r afael â’u pryderon wyneb yn wyneb. Meddai un cwsmer wrth Daria, un o’n Cydlynwyr Tai: “Roedd yn braf gallu siarad â staff o adrannau penodol, a thrafod ein pryderon yn uniongyrchol â’r bobl sy’n gweithio yn y meysydd hynny.”
Bu darparwyr allanol yn cymryd rhan yn y digwyddiad hefyd, gan gynnig amrywiaeth o wasanaethau a chymorth. Meddai un o’r darparwyr: “Rydyn ni yma ac yn barod i helpu; y peth anodd yw cyfleu’r neges honno i bobl.” Mae hynny’n amlygu pwysigrwydd digwyddiadau fel y rhain o safbwynt sicrhau bod gwasanaethau gwerthfawr yn fwy hygyrch i’r gymuned.
Roedd y diwrnod yn llawn gweithgareddau a gwasanaethau amrywiol a oedd yn cynnwys:
- Gweithgareddau chwaraeon
- Gwasanaeth ailgylchu Cyngor Sir Penfro
- Cymorth o ran iechyd meddwl
- Cymorth o ran rhifedd
- Cyngor ynghylch gyrfaoedd a chwilio am swyddi
- Arddangosiadau gwaith coed
- Cyfle i dynnu’r gelyn
- Cyfle i ymgysylltu â’r gwasanaeth tân a swyddogion heddlu cymunedol
- Mentrau’r Gwasanaeth Ieuenctid
- Gwybodaeth am iechyd cyhoeddus
- Cysylltwyr Trafnidiaeth
- Cymorth o ran Cysylltwyr Teuluol
Mwynhaodd ein cwsmeriaid amrywiaeth o weithgareddau, ac roedd y naws drwyddi draw’n eithriadol o obeithiol er gwaetha’r glaw, gydag ysbryd cymunedol pawb i’w weld yn amlwg. Roedd y bwyd gwych gan The Bearded Chefs a’r bwffe a ddarparwyd gan y gymuned yn help mawr hefyd!
Rydym yn edrych ymlaen at gynnal rhagor o ddiwrnodau cymunedol o hwyl ac at helpu ein cymunedau i gysylltu â’i gilydd a gweld pa gymorth sydd ar gael iddynt.
Os hoffech chi gynnal rhywbeth ar gyfer eich cymuned ateb, ac os hoffech gael help gan ateb i wneud hynny, cysylltwch â’n tîm datblygu cymunedol:
Sue Mackie [email protected]
Ali Evans [email protected]
Neu ffoniwch ateb ar 0800 854568.