Cynhadledd Genedlaethol Ymgysylltu â Thenantiaid 2024 (a gynhelir gan TPAS Cymru)

Ydych chi wedi cadw eich lle, trwy ateb, yn y gynhadledd i denantiaid eleni?

Dyma gyfle gwych i chi gwrdd â phobl o bob cwr o Gymru sydd hefyd yn byw mewn tai cymdeithasol, ac i drafod a dysgu am bynciau llosg sy’n bwysig i chi.

Eleni:

  • Yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod
  • Ar 13 – 14 Tachwedd 2024
  • Opsiwn 1 neu 2 ddiwrnod
  • Opsiwn i aros am 1 neu 2 noson
  • ateb yn talu’r costau i gyd, gan gynnwys costau gofal a chludiant
  • Drwy fynychu’r gynhadledd hon gan TPAS, byddech yn cynrychioli ateb a byddai disgwyl i chi gasglu gwybodaeth y gallech ddod â hi’n ôl i ateb er mwyn helpu cwsmeriaid eraill ateb. Byddech yn cael llawer o help gan ateb i gyflawni’r dasg hon.
*Gallwch gadw lle, trwy ateb, yn awr – gweler isod

Darganfod mwy am y cynhadledd yma

Ddim yn siŵr a ydych am fynychu? Dyma farn Anne am gynhadledd y llynedd.

“Os oes unrhyw un yn ystyried mynd i Gynhadledd TPAS Cymru ym mis Tachwedd 2024, mae’n wir yn gyfle gwych. Bues i yno y llynedd. Gallwch ddewis pa weithdai sydd o ddiddordeb i chi, ac maent i gyd yn cael eu cynnal mewn grwpiau bach. Roedd yn ddiddorol, yn addysgiadol ac yn hwyl. Fe wnes i fwynhau cwrdd â rhai o denantiaid eraill ateb, a phobl eraill sy’n rhentu cartrefi gan gymdeithasau tai ledled Cymru. Mae’r lleoliad yn hyfryd, ac roedd y bwyd gwych yn eisin ar y gacen.”

(Anne Denison a fynychodd Gynhadledd Genedlaethol Ymgysylltu â Thenantiaid 2023, a gynhaliwyd gan TPAS Cymru)

Dim ond nifer gyfyngedig o ystafelloedd sydd gan Westy’r Metropole, ac o blith y rheini mae nifer lai fyth yn addas i bobl ag anableddau. Mae’r ddwy ystafell sy’n hollol hygyrch yn addas i ddefnyddwyr cadair olwyn, felly rhoddir blaenoriaeth i gynrychiolwyr y mae angen y cyfleusterau hynny arnynt.

*Felly, cofiwch anfon ebost i [email protected] neu ffonio Ali Evans ar 01437 774766 / 07500 446611.

Rydym yn edrych ymlaen at gynhadledd lwyddiannus arall gan TPAS Cymru ac yn gobeithio y gwelwn ni chi yno!

Diweddarwyd 14/08/24